Carcharu dyn am ymosodiad ci XL Bully ar fachgen yng Nghaernarfon

Anaf CaioFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ffion Williams fod ei mab yn "poeni y byddai'n marw"

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn o Wynedd wedi cael dedfryd 26 mis o garchar ar ôl i'w gi XL Bully achosi anafiadau difrifol i blentyn wyth oed yng Nghaernarfon.

Mewn gwrandawiad blaenorol roedd Ian Parry wedi pledio'n euog i gyhuddiad o fod yn berchen ar gi XL Bully oedd allan o reolaeth gan achosi anaf difrifol, yn groes i Ddeddf Cŵn Peryglus 1991.

Roedd y ci 10 mis oed ym meddiant Parry, 45, pan ddigwyddodd yr ymosodiad ar Ffordd Penrallt Uchaf, Caernarfon tua 10:40 ar 11 Awst y llynedd.

Cafodd y bachgen, Caio, a oedd yn wyth oed ar y pryd, ei gludo i Ysbyty Gwynedd ac yna Ysbyty Alder Hey, Lerpwl, yn sgil yr ymosodiad.

Roedd "wedi ei orchuddio gyda gwaed", fe gollodd ei fawd ac fe gafodd sawl anaf arall i'w wyneb a'i gorff.

Disgrifiad,

Mae Caio "wedi dioddef mewn cymaint o ffyrdd," yn ôl ei fam, Ffion Williams

Clywodd Llys y Goron Caernarfon brynhawn Iau bod y ci "wedi canolbwyntio'n llwyr" ar Caio, er gwaethaf ymdrechion ei nain ac eraill ar y stryd i'w amddiffyn yn ystod yr ymosodiad.

Mewn ymgais i'w atal fe wnaeth Parry drywanu'r ci ddwywaith gyda chyllell cyn i'r XL Bully – yr oedd wedi ei brynu yn sgil hysbyseb Facebook yn Nhachwedd 2023 - ollwng ei afael ar y bachgen.

Er i'r ci oroesi'r trywanu, roedd wedi dioddef anafiadau sylweddol ac fe gafodd ei saethu'n farw yn ddiweddarach.

Nododd y barnwr, Nicola Jones, nad oedd y ci yn gwisgo coler, gan wneud atal yr ymosodiad yn anoddach.

CaioFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Caio yn wyth oed adeg yr ymosodiad yng Nghaernarfon

Mewn datganiad i'r llys dywedodd mam Caio, Ffion Williams, bod ei mab ar ei ffordd i barti pen-blwydd pan ddigwyddodd yr ymosodiad.

Gan ddisgrifio Caio fel plentyn "hapus" ac "anturus" cyn y digwyddiad, dywedodd bod yr ymosodiad wedi cael effaith ofnadwy arno, a'i bod yn teimlo "euogrwydd" am adael i'w mab fynychu'r parti.

Doedd hi ddim yn ymwybodol ar y pryd bod Parry yn berchen ar gi XL Bully, ac yn dilyn yr ymosodiad dywedodd bod ei mab yn "poeni y byddai'n marw".

Cafodd sioc o weld maint ei anafiadau, a dywedodd bod ei mab wedi "dioddef mewn cymaint o ffyrdd" ac ofn pasio'r tŷ erbyn hyn.

"Dwi'n gwybod all unrhyw gi droi, ond nid bob ci sydd hefo pŵer yr XL Bullies yma," ychwanegodd.

Ian Parry
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Ian Parry yn treulio hanner ei ddedfryd o 26 mis o dan glo, a'r gweddill ar drwydded

Mewn datganiad a ddarllenwyd yn y llys dywedodd Caio bod ei law "yn dal i frifo", ei fod yn parhau i gael hunllefau am y digwyddiad a bod ganddo sawl craith ar ei gorff.

Cafodd Parry, o Stryd Penrallt Uchaf, Caernarfon, ei ddisgrifio fel "dyn gweithgar" oedd wedi ymdrechu i droi ei gefn ar droseddu, a'i fod heb ymddangos o flaen y llys ers 2016.

Bydd yn treulio hanner ei ddedfryd o 26 mis o dan glo, a'r gweddill ar drwydded.

Cafodd hefyd ei wahardd rhag cadw ci am gyfnod amhenodol.