Dirwy £350,000 i fwrdd arholi CBAC am roi canlyniadau anghywir

Mae CBAC wedi cael dirwy ar ôl i gannoedd o ddisgyblion gael y graddau TGAU anghywir
- Cyhoeddwyd
Mae bwrdd arholi o Gymru'n wynebu dirwy o £350,000 ar ôl rhoi'r graddau TGAU anghywir i gannoedd o ddisgyblion.
Fe ddigwyddodd y camgymeriad ar gymhwyster bwyd a maeth oedd yn cael ei gynnig gan CBAC yn 2024, gyda 1,500 o ddisgyblion yn cael y canlyniadau anghywir.
Mae CBAC wedi ymddiheuro am y camgymeriad, gan ychwanegu bod y ddirwy yn ymwneud ag arholiadau yn Lloegr, ac ni effeithiodd ar ddisgyblion yng Nghymru.
CBAC yw'r prif fwrdd arholi yng Nghymru, ond mae hefyd yn darparu rhai cymwysterau i ysgolion a cholegau yn Lloegr - fel y gall rhai byrddau arholi o Loegr wneud yng Nghymru hefyd.
Dywedodd Ofqual, rheoleiddwyr arholiadau Lloegr, fod y ddirwy yn adlewyrchu "natur ddifrifol methiannau CBAC a'n hymrwymiad i warchod buddiannau myfyrwyr".
- Cyhoeddwyd7 Chwefror
- Cyhoeddwyd18 Mai 2018
- Cyhoeddwyd15 Ionawr
Fe wnaeth Ofqual ganfod bod CBAC wedi methu ag addasu marciau gwaith cwrs a roddwyd gan athrawon – oedd yn 50% o'r cymhwyster – er mwyn sicrhau eu bod yn gyson â safonau cenedlaethol.
Fe arweiniodd hyn at 847 o ddisgyblion yn cael graddau is nag y dylen nhw ar gwrs Eduqas TGAU Paratoi Bwyd a Maeth, tra bod 680 wedi cael graddau uwch.
Cafodd marciau y rheiny ar y graddau is eu cywiro maes o law, tra bod y rheiny ar raddau uwch wedi cadw eu marciau er mwyn osgoi eu cosbi'n annheg.
Bydd CBAC yn cael dirwy o £175,000 am gamgymeriadau wrth arholi marciau'r athrawon yn allanol, a £175,000 arall am dorri rheolau ynglŷn ag "adolygu marcio".
'Adlewyrchu natur ddifrifol y methiannau'
Rhwng 2017 a 2023, fe wnaeth CBAC adael i 3,926 o bapurau arholi gael eu hadolygu gan yr un asesydd oedd wedi marcio o leiaf rhan ohonynt yn wreiddiol.
"Mae'n rhaid i fyfyrwyr allu ymddiried bod eu canlyniadau'n adlewyrchiad teg o'u perfformiad a beth maen nhw'n ei wybod, deall ac yn gallu ei wneud," meddai cyfarwyddwr gweithredol Ofqual ar gyfer cymwysterau cyffredinol, Amanda Swann.
"Mae'r dirwyon arfaethedig yma'n adlewyrchu natur ddifrifol methiannau CBAC a'n hymrwymiad i warchod buddiannau myfyrwyr, a gwarchod cywirdeb ein system gymwysterau."
'Cymryd cyfrifoldeb lawn'
Dywedodd CBAC eu bod yn "ymddiheuro'n ddiffuant" i'r rheiny yr effeithiwyd arnynt, a bod nodau credyd gwerth £219,000 yn cael eu rhoi i'r ysgolion a cholegau gafodd eu heffeithio fel iawndal.
Fe gadarnhaodd y corff arholi hefyd nad oedd y cymhwyster dan sylw "ar gael i ysgolion a cholegau wedi'u hariannu gan y wladwriaeth yng Nghymru".
"Rydyn ni'n cymryd cyfrifoldeb lawn ac yn cydnabod na wnaethon ni gwrdd â'r gofynion uchel arferol sydd i'w ddisgwyl ohonom," meddai CBAC mewn datganiad.
"Ar ôl cydweithio'n llawn gydag Ofqual drwy'r holl broses, rydym eisiau sicrhau dysgwyr a chanolfannau ein bod wedi cynnal adolygiad trylwyr o'n prosesau a rhoi'r mesurau priodol ar waith i sicrhau nad yw digwyddiadau o'r fath yn cael eu hailadrodd yn y dyfodol."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.