Mam April Jones mewn gwasanaeth arbennig
- Cyhoeddwyd
Bydd mam April Jones, y ferch fach o Fachynlleth gafodd ei chipio o'i chartref a'i llofruddio, yn siarad mewn gwasanaeth arbennig ar gyfer pobl sydd wedi mynd ar goll o'u cartrefi.
Dywedodd Mrs Jones fod y gwasanaeth garolau, sy'n cael ei threfnu gan yr elusen Missing People, yn gyfle i deuluoedd sy'n dioddef i ddod at ei gilydd.
Bydd chwaer gitarydd y Manic Street Preachers, Richey Edwards, hefyd yn y digwyddiad. Aeth ar goll yn 1995.
Bydd y gwasanaeth yng Nghapel Tabernacl y Bedyddwyr yng Nghaerdydd.
13,000 o bobl coll
Cafodd April ei chipio tra yn chwarae gyda ffrindiau gerbron ei chartre' yn 2012.
Fe wnaeth yr heddlu gynnal yr ymchwiliad mwyaf o'i fath ym Mhrydain wrth geisio dod o hyd iddi, ond dyw ei chorff heb gael ei ddarganfod.
Cafodd Mark Bridger ei garcharu am oes am lofruddio April yn Hydref 2012.
Mae yna amcangyfrif fod mwy na 13,000 o bobl yn mynd ar goll o'u cartrefi yng Nghymru bob blwyddyn.
Un arall fydd yn darllen yn y gwasanaeth ydi'r Parchedig Irfon Roberts o Aberteifi.
Ar 10 Mawrth 2012 fe wnaeth ei fab, Owain Mon Roberts ddiflannu ar ôl dweud wrth ei rieni ei fod yn mynd am dro i'r Mwnt, taith gerdded pum milltir.
Dyw ei deulu ddim wedi clywed unrhyw beth ganddo ers hynny.
Un arall fydd yn bresennol yn y gwasanaeth yw Rachel Elias, chwaer y seren roc Richey Edwards.
Fe wnaeth cyn gitarydd y Manic Street Preachers ddiflannu yn Chwefror 1995.
Cafwyd hyd i'w gar yn ardal pont Hafren, a cred rhai bod Mr Edwards, o'r Coed Duon, wedi lladd ei hun.