Cyngor Abertawe i werthu Canolfan Ddinesig

  • Cyhoeddwyd
Swansea civic centre
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y Ganolfan Ddinesig ei agor yn 1982

Dywed arweinydd Cyngor Abertawe y bydd arian sy'n cael ei godi drwy werthu Canolfan Ddinesig y ddinas yn cael ei ddefnyddio i ailddatblygu canol y ddinas.

Fe fydd yr adeilad, gafodd ei agor yn 1982, yn cael ei roi ar werth yn ddiweddarach yn y mis.

Dywedodd Rob Stewart, arweinydd Cyngor Abertawe, fod y safle 16 acr yn safle hynod werthfawr.

Cyn hir disgwyl i'r cyngor ddatgelu mwy o fanylion am y cynlluniau ar gyfer ailddatblygu canol y ddinas.

Yn y cyfamser bydd cabinet ac uwch reolwyr y sir yn symud o'r Ganolfan Ddinesig, i Neuadd y Ddinas.

Dywedodd Mr Stewart mai'r bwriad yn y pendraw yw codi swyddfeydd ar eu cyfer yng nghanol y ddinas.

Tir gwerthfawr

"Mae'n hanfodol fod nifer sylweddol o'n gweithwyr yng nghanol y ddinas, oherwydd bydd hyn yn help gyda busnesau eraill ac yn cryfhau'r ddadl dros ailddatblygu canol y ddinas, " meddai.

Mae o am weld adeiladau eiconig, yn cael eu codi ar yr arfordir.

"Dwi ddim yn credu y dylai adeiladau'r cyngor fod ger y môr, dyma'r tir mwyaf gwerthfawr."

Ond mae'r cynghorydd Christopher Holley, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, o'r farn bod y penderfyniad i adleoli staff y cyngor i Neuadd y Ddinas, yn un gwirion.

"O ystyried fod yna gyfnod o ad-drefnu cynghorau o'n blaenau , ac o bosib ein bod yn uno gyda Chastell-nedd Port Talbot, felly a yw hyn yn amser call i symud?"