Be' nesa' i lofrudd Broadchurch?
- Cyhoeddwyd
Roedd 'Broadchurch' ar ITV ymhlith cyfresi teledu mwyaf llwyddiannus 2014, ac mae hi'n ôl ar ein sgriniau.
Sioc diwedd y gyfres gyntaf oedd mai'r cymeriad Joe Miller oedd yn euog o lofruddio'r llanc ysgol Danny Latimer. Bu Matthew Gravelle, sy'n actio'r llofrudd, yn siarad ar Raglen Dylan Jones am y gyfres newydd.
Wyt ti'n credu y bydd ail gyfres 'Broadchurch' mor boblogaidd a'r gyfres gyntaf?
'Dy chi byth yn gwybod pan ydych chi'n saethu rhywbeth - 'da chi jest yn dilyn y sgript. Odd e'n sioc llwyr pan ffindon ni mas pa mor boblogaidd oedd e.
Dwi ddim yn hollol siŵr beth yw apêl y gyfres. Mae ganddo sawl peth yn gyffredin â chyfresi eraill, fel 'sgrifennu, actio a chyfarwyddo cryf - pob adran yn gwneud eu gorau. Ond mae yna rhyw galon ynddo sydd wedi bachu yn nychymyg pobl - pobl yn gweld adlewyrchiad o'u cymdeithas nhw, efallai.
Ar ddiwedd y gyfres gyntaf mi ddaeth hi i'r amlwg mai dy gymeriad di, Joe Miller, oedd y llofrudd.Wnest ti orfod rhybuddio dy blant o hyn?
Roedd hi braidd yn rhyfedd - do'n i ddim isho mynd â nhw i'r ysgol, a phobl yn dweud pethau am y ffaith mod i'n llofrudd o'u blaenau nhw felly o'n i eisiau egluro mai actio rhan o'n i - 'jocan'. Dydw i a ngwraig [actores Y Gwyll, Mali Harries] ddim yn trafod ein swyddi a'n gwaith rhyw lawer gartref - 'dy ni jest yn parhau efo bywyd.
Oeddet ti'n gwybod o'r dechrau fod yna ail gyfres a dy fod am fod yn rhan ohonni?
Na - ffeindion ni mas tua hanner ffordd trwy ddarllediad y gyfres gyntaf, felly dwi wedi gorfod ei gadw'n dawel ers tua mis Mai 2013. Gan ei bod hi'n sioc i bawb mod i yn ymddangos yn yr ail gyfres, dydi pobl ddim wedi bod yn fy holi beth sy'n digwydd, felly mae hi wedi bod yn hawdd cadw'n dawel...tan nawr...! Dydyn ni ddim yn gwybod os fydd yna drydydd cyfres eto - dydw i ddim yn siŵr os fydden i ynddo fe beth bynnag.
Sut beth ydi ffilmio'r gyfres?
Mae hi'n cymryd rhyw bedair mis i'w ffilmio - pythefnos i ffilmio pob pennod. Mae 'na Gymry eraill yn y cast a'r criw hefyd - Eve Miles ac Euros Lyn - ond mae pawb yn dod ymlaen â'i gilydd yn dda, felly mae pawb yn ffrindiau.
Mi rwyt ti hefyd wedi ymddangos mewn cyfresi ar S4C - sut brofiad oedd actio dynes yn 35 Diwrnod?
Diddorol. Anghyfforddus. Ond yn lot o hwyl. Doeddwn i ddim yn mwynhau cael fy nghoesau i wedi eu waxio - o'dd 'na lot o waith paratoi a baswn i ddim yn ei wneud pob dydd. Mae'n broses hir a phoenus.
Beth yw'r prosiectau eraill sydd gen ti ar y gweill?
Cwpl o bethau ond dwi ddim yn cael siarad amdanyn nhw... mae hynny'n beth cyffredin gyda fy ngwaith i ar hyn o bryd!!