Casglu tystiolaeth yn erbyn cyn seren roc
- Cyhoeddwyd
Ym mis Rhagfyr 2013 cafodd y cyn seren roc Ian Watkins ddedfryd o 35 mlynedd am gyfres o droseddau rhyw yn erbyn plant ifanc.
Cafodd dwy ddynes, oedd yn famau, eu carcharu am drosedau rhyw yn erbyn plant.
Fe barodd achos Waktins am fis ond doedd ymchwiliadau'r heddlu ddim ar ben.
Mae rheithgor newydd benderfynu fod cyn gariad Watkins, Joanne Mjadzelics, 39 oed o Doncaster, yn ddieuog o feddu ar ddelweddau anweddus o blant.
Derbyniodd rheithgor Llys y Goron Caerdydd ei hamddiffyniad, ei bod ond wedi cyfnewid delweddau anweddus o blant a chynnal trafodaethau ar-lein am gam-drin gyda Watkins mewn ymgais i'w ddal.
Methiannau'r heddlu
Yn ôl yr amddiffyn, roedd hi'n gweithredu fel hyn oherwydd methiannau'r heddlu.
Fe aeth hi i'r awdurdodau, gan gwyno am ymddygiad Watkins am y tro cyntaf yn 2008.
Dywedodd yr amddiffyn iddi barhau i wneud yr honiadau yn 2009, 2010, 2011 a 2012. Cafodd Watkins ei arestio ar 17 Rhagfyr, 2012.
Ond honnodd yr erlyniad mai dim ond ar ôl i Joanne Mjadzelics a Watkins gweryla yr aeth hi i'r heddlu.
Clywodd y llys dystiolaeth cyfweliadau'r diffynnydd gyda'r heddlu am ei pherthynas gyda Watkins, cyn ganwr y Lostprophets.
Roedd hi wedi honni ei bod wedi ei hudo i fyd tywyll y canwr roc am ei bod hi'n ofni y byddai'n ei gadael.
Cyfarfu â'r canwr yn 2006 ac o fewn blwyddyn, hi oedd ei gariad a chyfarfodydd yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd, Llundain a Los Angeles.
Gwyliodd y rheithgor fideo o'r ddau gariad yn 2007 yn y gwely yn trafod cam-drin plant. Roedd Watkins wedi gwneud y fideo.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Ionawr 2015