Cwtogi nifer cynghorwyr 'yn niweidiol' yn ôl adolygiad
- Cyhoeddwyd
Mae adolygiad annibynnol o lywodraeth leol yng Nghymru wedi dod i'r casgliad y byddai cwtogi'r nifer o gynghorwyr yn niweidio democratiaeth leol.
Gofynnwyd i Dr James Downe o Ysgol Fusnes Caerdydd i werthuso craffu ar benderfyniadau cynghorau sir.
Yn ei adroddiad mae Dr Downe yn dweud y byddai "goblygiadau i gynrychiolaeth gymunedol" pe bai llywodraeth Cymru'n mynnu torri'r nifer o gynghorwyr - ac fe allai'r pwysau gwaith ychwanegol ysgogi rhai i beidio mentro i sefyll mewn etholiad.
Ym mis Hydref dywedodd y gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus Leighton Andrews y byddai cynllun arfaethedig i ad-drefnu llywodraeth leol yn arwain at lai o gynghorwyr.
Mae gan Gymru fwy o gynghorwyr y pen na Lloegr a'r Alban.
'Ystyried y goblygiadau'
Ond yn ôl Dr Downe, fe fyddai torri'r nifer yn ei gwneud hi'n anodd i gynghorwyr weithredu'n effeithiol.
Dywed yr adroddiad: "Mae angen i lywodraeth Cymru ystyried y goblygiadau i gynrychiolaeth gymunedol pe bai uno cynghorau'n arwain at leihad yn nifer y cynghorwyr.
"Pwy fydd yn rhoi eu henwau gerbron yr etholwyr os yw uno yn arwain at lai o gynghorwyr, a gofyn i bob un weithio mwy, neu hyd yn oed i weithio'n llawn amser?"
Dywedodd llefarydd ar ran llywodraeth Cymru: "Mae'r dyfyniad yma o'r adroddiad yn adlewyrchu casgliadau'r ymchwilwyr, mewn trafodaeth â rhanddeiliaid. Dyw e ddim yn adlewyrchu barn Llywodraeth Cymru.
"Mae Gweinidogion Cymreig yn ystyried y ddeddfwriaeth a'r ymgynghoriad fydd angen i baratoi ar gyfer diwygio llywodraeth leol, ac mae hyn yn cynnwys ystyried rheolaeth gymunedol effeithiol."