Adroddiad: Cyswllt rhwng ysmygu a marwolaethau babanod
- Cyhoeddwyd
Mae adroddiad sy'n cael ei gyhoeddi ddydd Mawrth yn pwysleisio'r cyswllt rhwng ysmygu ac achosion pan mae babanod wedi marw'n sydyn heb esboniad.
Mae'r adroddiad, dolen allanol gan Raglen Adolygu Marwolaethau Plant ac Arolwg Amenedigol Cymru Gyfan wedi edrych ar 45 o farwolaethau o'r fath yng Nghymru.
Daeth yr adroddiad i'r casgliad bod ysmygu yn un o'r prif ffactorau risg - gyda 25 allan o'r 45 o blant fu farw yn byw mewn cartrefi ble'r oedd data yn dangos bod pobl yn ysmygu - ac mae'n pwysleisio pwysigrwydd ardaloedd di-fwg.
Roedd risgiau eraill yn cynnwys rhannu gwely gyda phlentyn, ysmygu yn ystod ac ar ôl genedigaeth, a babanod oedd yn ysgafn iawn yn cael eu geni.
'Modd gwneud mwy'
Er bod 'na ostyngiad yn nifer y marwolaethau o'r fath dros y blynyddoedd diwetha', dywed swyddogion bod modd gwneud mwy eto i leihau'r nifer.
Roedd nifer o ffactorau eraill hefyd yn cael eu nodi, gan gynnwys bod y fam yn ifanc, bod y tad wedi yfed yn y 24 awr cyn y farwolaeth, a genedigaeth gynamserol.
Mae un o awduron yr adroddiad, Dr Paul Davis, Paediatregydd Ymgynghorol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, yn dweud: "Er y camau breision a wnaethpwyd i leihau nifer y babanod sy'n marw'n sydyn heb esboniad yng Nghymru, mae'r ffaith bod cymaint o farwolaethau'n gysylltiedig â ffactorau risg sy'n hysbys yn awgrymu y gellid atal llawer mwy.
"Yn benodol, roedd y gyfradd ysmygu ymysg rhieni'n ddychrynllyd o uchel ac ni ellir goramcangyfrif pwysigrwydd amgylchedd di-fwg i fabanod.
"Mae'n bwysig nad yw rhieni'n teimlo eu bod yn cael eu beio am farwolaeth eu baban. Nid dyna'r sefyllfa a thrwy ddiffiniad ni wyddom achos y marwolaethau hyn.
"Fodd bynnag, mae yna risgiau y gellir eu hosgoi a dylem i gyd weithio gyda'n gilydd i atal cymaint ag sydd bosib o'r trasiedïau hyn."
Argymhellion
Mae Dr Mair Parry, Swyddog Cymreig y Coleg Brenhinol Paediatreg ac Iechyd Plant, wedi ymateb drwy ddweud: "Mae genedigaeth gynamserol neu bwysau isel yn arwain at nifer o farwolaethau newydd-anedig, ffactorau sy'n aml yn gysylltiedig ag arferion megis ysmygu.
"Mae hwn yn ffactor ymysg y pwysicaf yng Nghymru, pan gaiff ei gymharu gyda gweddill y DU, ac yn ffactor sy'n cyfrannu i gyfradd annerbyniol y marwolaethau sydyn heb esboniad ymhlith babanod, sy'n cael ei bwysleisio yn yr adroddiad heddiw.
"Fel Coleg rydym ni wedi ymgyrch i leihau nifer y marwolaethau plant y mae modd eu hosgoi, gyda nifer o'n hargymhellion hefyd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad - ymgyrchoedd i hyrwyddo cysgu'n ddiogel, mwy o gefnogaeth atal ysmygu i ferched cyn, yn ystod, ac wedi beichiogrwydd, a sicrhau bod gweithwyr iechyd yn derbyn hyfforddiant addas i adnabod y rheiny sy'n wynebu'r perygl mwyaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf 2014
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf 2014