GIG Cymru: Cynlluniau Llafur a Phlaid Cymru

  • Cyhoeddwyd
DoctorFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ddwy blaid yn cynnig hyfforddi mwy o weithiwyr ar gyfer y gwasanaeth iechyd

Mae'r Blaid Lafur a Phlaid Cymru wedi amlinellu eu polisïau ar y gwasanaeth iechyd ddydd Llun.

Mae Llafur yn dweud y bydd yn gwario'r elw o dreth newydd - treth plastai - ar hyfforddi 1,000 o staff ar gyfer y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

Dywed Llafur y byddai'r dreth newydd ynghyd a mesurau trethi arall yn codi tua £120 miliwn y flwyddyn i Lywodraeth Cymru.

Yn y cyfamser, mae Plaid yn dweud fod modd "achub" y GIG gyda mwy o ddoctoriaid, a drwy uno gofal iechyd a gofal cymdeithasol.

Llafur

Mae Llafur eisiau gosod beth a elwir yn mansion tax ar dai sydd werth mwy na £2 miliwn ledled y DU.

Dywed y blaid Lafur yng Nghymru y byddai'n talu am 1,000 o weithwyr gofal iechyd, yn cynnwys doctoriaid a nyrsys.

Dywedodd Brif Weinidog Cymru Carwyn Jones: "Mae hyn yn ymrwymiad o ddifrif i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru, fydd yn bosib gyda llywodraeth Lafur ym mis Mai.

Plaid Cymru

Dywed Plaid Cymru fod eu cynlluniau yn cynnwys polisi o recriwtio 1,000 o ddoctoriaid ychwanegol.

Mae'r blaid wedi dweud y byddai'n bosib ariannu'r polisi gyda threth o 20% ar ddiodydd siwgr.

Ymysg mesurau eraill, dywedodd Plaid Cymru y byddant yn uno gofal iechyd a gofal cymdeithasol fel bo llai o oedi wrth symud o un gwasanaeth i'r llall.

Dywedodd AS Plaid, Hywel Williams: "Mae Plaid Cymru eisiau adeiladu system iechyd dosbarth cyntaf sy'n cyfarfod anghenion pawb, a heddiw rydyn ni yn amlinellu'r camau sydd rhaid i ni eu cymryd i gyflawni hynny."