Cymru Iach - Pam?

  • Cyhoeddwyd

Does dim dwywaith fod y gwasanaeth iechyd yng Nghymru dan y lach. Mae'r gwasanaeth dan bwysau mawr - mae'r wasgfa ariannol yn parhau ac fe fethwyd nifer o dargedau allweddol gydol y flwyddyn.

Mae'r galw'n parhau i gynyddu, ac mae 'na ddiffyg staff mewn mannau.

Yn ogystal, mae cryn feirniadaeth wedi bod o berfformiad y gwasanaeth - gyda dadl wleidyddol chwyrn rhwng llywodraeth Cymru a llywodraeth y DU yn San Steffan.

Yn ystod ein cyfres, Cymru Iach ledled gwasanaethau newyddion BBC Cymru yr wythnos hon, fe fyddwn ni'n gofyn am eich barn a'ch profiadau chi. Mewn arolwg barn arbennig - 'dy ni'n gofyn ydych chi'n credu bod y GIG yn waeth yng Nghymru nag yn Lloegr, ydy'r gwasanaeth yn cael digon o arian, ac os nag ydy e, o le ddylai'r arian hwnnw ddod? Ddylen ni gyfyngu ar be' all y GIG gynnig, neu dalu am rai gwasanaethau? Ac wrth i'r galw gynyddu - ddylen ni wneud mwy i helpu - drwy gymryd cyfrifoldeb am ein iechyd a byw bywyd iachach?

Wrth i'r ddadl danllyd rhwng llywodraethau Cymru a'r DU barhau wrth i'r Etholiad Cyffredinol nesâu - fe fyddwn ni'n ceisio codi uwchlaw'r twrw. 'Dy ni wedi gwahodd Ymddiriedolaeth Nuffield i edrych ydy'r GIG ar ei hôl hi yng Nghymru o gymharu â Lloegr. Yn ogystal â manylu ar ffigyrau allweddol fel unedau brys ac amseroedd amser i gleifion canser - fe fyddan nhw hefyd yn edrych ar ba ffactorau sy'n dylanwadu ar berfformiad y GIG yma.

Am y tro cyntaf erioed, bydd BBC Cymru yn treulio 24 awr gyda staff Uned Frys brysuraf Cymru yn Ysbyty't Brifysgol yng Nghaerdydd - gan gymryd cip tu ôl i'r llenni. Sut mae staff yn ymdopi ar adegau prysur? Sut mae cleifion yn cael eu blaenoriaethu, a sut mae staff yn cadw safonau gofal pan fo adnoddau'n brin? Mae unedau brys yn cael eu defnyddio fel llinyn mesur i'r GIG yn aml - pan mae'r unedau brys dan bwysau, yna mae'n debyg y bydd trafferthion mewn adrannau eraill. Fe fyddwn ni hefyd yn edrych ar safle'r uned frys o fewn fframwaith ehangach yr ysbyty - sut mae cleifion yn symud drwy'r system a sut mae timau yn y gymuned yn ceisio lliniaru'r pwysau. Yn ogystal, fe gawn ni gip ar wasanaeth arall sydd wedi bod dan y chwyddwydr yn ddiweddar - gan fynd ar alwad gyda pharafeddygon.

Mae ambell i adran yn y GIG yn dioddef effeithiau diffyg staff yng Nghymru - ac fe fyddwn ni'n gofyn beth allai gael ei wneud i ddatrys y broblem honno? All y GIG wneud mwy i hyfforddi a denu meddygon, nyrsys a gweithwyr iechyd eraill - ac os felly, sut? Hefyd, fe fyddwn ni'n edrych ar waith ymchwil meddygol arloesol - ydyn ni'n ceisio gwneud gormod yng Nghymru? Ddylai cwmnïau preifat chwarae rhan ychydig yn fwy canolog yng ngwaith y GIG? Ac fe fyddwn ni'n edrych y tu hwnt i'r gwasanaeth iechyd - gan edrych ar ffactorau megis cyfoeth, swyddi a sgiliau allai gael rhagor o ddylanwad ar iechyd y genedl na'r GIG.