£11m i'r gwasanaeth ambiwlans brys
- Cyhoeddwyd
Fe fydd y gwasanaethau ambiwlans brys yn derbyn hwb ariannol gwerth £11m gan Lywodraeth Cymru.
Bwriad y cyllid ychwanegol yw helpu parafeddygon Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a chlinigwyr eraill cyn-ysbyty i ymateb i'r galw cynyddol gan y cyhoedd, yn arbennig dros fisoedd y gaeaf.
Eisoes fe fydd y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys (EASC), sy'n comisiynu'r gwasanaethau ambiwlans brys ar ran y byrddau iechyd, yn derbyn £8m allan o'r £40m o arian ychwanegol fydd yn cael ei roi i'r GIG ar gyfer pwysau'r gaeaf, wedi cyhoeddiad y Gweinidog Cyllid Jane Hutt yn gynharach y mis hwn.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cymeradwyo £3m o gyllid cyfalaf sy'n golygu y gall Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru brynu 17 o ambiwlansys brys rheng flaen ychwanegol. Byddant yn ymuno â'r fflyd o 243 o ambiwlansys brys sydd eisoes yn bodoli.
'Darparu ymateb cyflym'
Hefyd yn ddiweddar cymeradwyodd Llywodraeth Cymru £3.8m i brynu 41 o gerbydau newydd fel rhan o raglen flynyddol o ddarparu cerbydau newydd yn lle'r hen rai.
Yn ôl y llywodraeth bydd hyn yn helpu i ddarparu fflyd fodern fwy dibynadwy, fydd yn haws ei chynnal a mwy effeithlon o ran tanwydd, ac yn allweddol er mwyn gwella'r gwasanaeth.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, yr Athro Mark Drakeford bod gwella'r gwasanaeth ambiwlans yn flaenoriaeth i'r llywodraeth.
"Bydd [y buddsoddiad] yn cynyddu nifer yr ambiwlansys brys rheng flaen sydd ar gael ledled Cymru. Mae'r Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys hefyd wedi buddsoddi £7.5m sy'n golygu y gall y gwasanaeth ambiwlans gyflogi 120 o barafeddygon ychwanegol.
"Mae'r pecyn buddsoddi ychwanegol hwn yn helpu i sicrhau bod y gwasanaeth ambiwlans mewn gwell sefyllfa i ddarparu ymateb cyflym i alwadau ledled Cymru lle mae bywydau yn y fantol."