Ymgyrch i brynu cadair Eisteddfod Pwllheli 1921

  • Cyhoeddwyd
Cadair Pwllheli

Mae ymgyrch ar y gweill ym Mhen Llŷn er mwyn ceisio casglu digon o arian i brynu cadair Eisteddfod Pwllheli 1921.

Daeth y gadair i'r amlwg ar wefan werthu arlein, gyda dyn o ardal Llanelli yn gofyn £1,000 amdani.

Mae prynwr o America wedi cynnig £2,000 amdani, ond mae criw o bobl ym Mhen Llŷn wedi sefydlu cronfa gymunedol er mwyn ceisio ei chael hi'n ôl i Lŷn.

Mae Richard Patterson o Pwll, ger Llanelli, yn casglu hen greiriau a phrynodd y gadair gan werthwr yn Lloegr.

Cafodd y gadair ei rhoi ar werth am yr eildro fel jôc gan wraig Richard Patterson: "Don i ddim moyn gwerthu fe, cafodd ei rhoi ar eBay fel jôc."

Wedi i'r gadair gael ei thynnu oddi ar y wefan, mi wnaeth criw o Gymdeithas Archaeoleg a Hanes Llŷn a oedd yn awyddus i brynu'r gadair, gysylltu â Mr Patterson.

Erbyn hyn mae'r criw wedi sefydlu cronfa gymunedol er mwyn casglu arian i brynu'r gadair, wedi i Mr Patterson gytuno i'w gwerthu am £850.

Cafodd y gadair ei hennill gan Samuel Valentine o ardal Rhos, tad Lewis Valentine, un o'r tri fu'n gyfrifol am losgi'r ysgol fomio ym Mhenyberth yn 1936.

Dywedodd Eifion Gruffydd, un o'r rheiny sy'n ceisio sicrhau bod y gadair yn dychwelyd i Ben Llŷn, eu bod yn awyddus i'w harddangos yn yr ardal, a bod "digon o lefydd i'w harddangos - ysgolion, y coleg, llyfrgelloedd a'r neuadd."

Er gwaethaf cynnig o £2,000 gan Americanwr am y gadair, mae Richard Patterson wedi dweud ei fod am ei gweld yn dychwelyd i Bwllheli.