'Gwnewch rywbeth am y peth', medd Tudur Owen
- Cyhoeddwyd

Datgelodd Tudur ar ei raglen ar BBC Radio Cymru ei fod wedi cael triniaeth am ganser y prostad
"Ewch at y doctor a mynnwch sylw... gwnewch rywbeth am y peth!"
Dyna neges y digrifwr a chyflwynydd Tudur Owen i ddynion sydd ag unrhyw amheuaeth bod ganddyn nhw ganser y prostad.
Fe ddaeth ei neges wrth iddo ddatgelu ei fod wedi bod yn cael triniaeth am ganser y prostad ei hun dros y misoedd diwethaf.
Fe gyhoeddodd fod ganddo'r cyflwr ar ei raglen ar BBC Radio Cymru brynhawn Sadwrn diwetha'.
Dywedodd: "Do'n i ddim am dd'eud unrhyw beth ond mi 'naeth Chris Evans achub y blaen arna' i... y cyfryngau Cymraeg ar ei hôl hi o ddiwrnod!"
Ddydd Gwener datgelodd Evans, cyflwynydd radio a'r One Show ar deledu BBC One, ei fod wedi bod yn cael profion am ganser y prostad.
'Lwcus ofnadwy'
Ychwanegodd Tudur: "Ar ôl gweld be ddeudodd o, dwi'n meddwl ei bod yn bwysig i mi ddeud oherwydd dwi 'di bod yn lwcus ofnadwy.
"Mi ges i wybod ym mis Hydref y llynedd - ar ôl misoedd o boeni - fod gen i ganser y prostad. Ti ddim yn disgwyl i'r math yma o beth ddigwydd i chdi.
"Bellach dwi wedi cael triniaeth, a dyna pam fues i ffwrdd am ychydig wythnosau.
"Mae'n bwysig bod y neges yn mynd allan - bois, os oes gynnoch chi unrhyw amheuaeth ewch ar wefan prostatecanceruk.org, dolen allanol ac mae'r wybodaeth i gyd yn fanna.
"Sbïwch ar y we, sbïwch ar y symptomau, ewch at y doctor a mynnwch sylw a gwneud rhywbeth am y peth.
"Pan mae'n cael ei ddal yn gynnar mae'r opsiynau i gyd yna, ac mae'n un o'r mathau o ganser y medrwch chi oroesi a'i guro yn haws na'r un os ydach chi'n cael triniaeth yn fuan.
"Dwi'n gwella - dwi'n dal i gael triniaeth ond mae'n mynd i fod yn iawn dwi'n meddwl."

Datgelodd y cyflwynydd Chris Evans ddydd Gwener ei fod wedi cael profion am ganser