BAFTA a balchder y glowyr
- Cyhoeddwyd
Mae na fyd o wahaniaeth rhwng carped coch y BAFTAS a'r dyddiau hirfaith oer ar y llinell biced yng Nghwm Dulais. Ond mae'r ddau fyd hwnnw yn dod ynghyd ar 8 Chwefror, diolch i'r ffilm 'Pride'.
Mae'r ffilm, sydd wedi ei henwebu am ddwy wobr BAFTA, yn portreadu'r berthynas rhwng y glowyr a chymuned hoyw o Lundain wnaeth eu helpu yn ystod streic fawr 1984/85.
Un o'r cymeriadau canolog oedd Sian James sydd bellach yn Aelod Seneddol Dwyrain Abertawe. Fe siaradodd hi â Cymru Fyw am ei hatgofion o'r cyfnod a'i hargraffiadau o'r ffilm.
Beth oedd dy farn di am y portread ohonot yn y ffilm?
Wel mae'n anodd iawn i edrych ar eich hunan ar y sgrin. Nid yn unig i wylio'r person ond gwylio'ch hunan 30 mlynedd yn ôl!
Ond mi oedd fy mhlant wedi synnu pa mor debyg oedd Jessica Gunning (yr actores) i luniau ohona i yn ystod y streic.
O'n i yn nerfus cyn gwylio'r ffilm achos o'dd Stephen Beresford, 'sgwennodd y film, wedi bod yn onest iawn gyda ni. Fe ddwedodd e mai cipolwg o bethe fydde hwn.
Beth yw dy ymateb i lwyddiant 'Pride'?
Wel o'n i'n gwybod bod hi'n stori bwysig, o'dd y criw oedd yn fywiog yn ystod y streic o fewn y mudiad a ffrinidau hoyw a lesbiaid i gyd yn gwbod bod rhywbeth arbennig wedi digwydd.
Ond o'dd amser wedi mynd heibio felly o'n i heb ystyried faint o bobl neu faint o ddiddordeb fydde i'r stori.
Wi'n gwbod bod e'n rhywbeth pwysig, yn hanesyddol ond nag o'ch chi'n sicr fod pobl eraill yn mynd i weld e yn yr un modd. A hwnna sy'n rhyfeddu chi - fod cymaint o bobl wedi ei ddeall e.
Sut ymateb wyt ti wedi ei gael yn bersonol?
Wi di bod yn cael fanmail hefyd o fannau ar draws y byd. Wi di cael llawer o bobl sy'n ail gysylltu gyda chi, "You don't remember me, but I was xx at xx" sy' wastad yn neis achos mae'r rhwydwaith wedi ehangu.
Ond be sy' di synnu fi yw bod un o'r bechgyn sy' 'di bod yn hyrwyddo'r ffilm yn America wedi son am ei rieni yn mynd i weld y ffilm yn Atlanta, Georgia a phobl ar eu traed yn cymeradwyo, pobl yn gweud bod nhw di bod yn llefen a chwerthin. Pwy fydde'n meddwl y bydde fe'n cael yr un ymateb yn Atlanta a gafodd e yn Neuadd y Glowyr yn Ystradgynlais!
Beth yw dy farn di am bortread yr actorion?
Ma'r actor Bill Nighy yn adrodd stori wrthai am y ffordd nath e ddysgu'r acen Gymraeg. Odd e'n gweud bod e di mynd a'i tape recorder da fe, a wedi mynd mewn i dafarndai a chlybiau ar draws y de a wedi gofyn i bobl i adrodd ei sgript e mewn i'r recorder a wedyn nath e seilio'r acen ar rheiny.
Ma lot o son y dylse nhw wedi cael fwy o actorion Cymraeg, ond nid mater i ni oedd hwnna. Ond ma raid gweud o'n i methu credu pan nath Stephen ffonio a dweud "They've commissioned me to do the script... and by the way, Bill Nighy and Immelda Staunton have signed up. "
"YOU WHAT?" oedd yr ymateb. Odd Bill Nighy di gweud wrtha i'n hunan, "I would've killed to be in this film."
Mae rôl ganolog y merched i'w weld yn amlwg yn y ffilm. Oedd cyfnod y streic yn help i wella agweddau tuag at fenywod yn yr ardal?
Fi'n credu odd e'n drobwynt i ni ymysg y grŵp, ac i ni yn ein priodasau ni, a'r ffordd o'n in ymddwyn yn ein teuluoedd ni, er enghraifft.
Am y tro cynta, nid mater o'r menywod yn cefnogi ac yn gweinyddu - neud y pethach traddodiadol fel coginio a pharatoi parseli bwyd a chasglu arian. Yn sydyn oedd pobol yn ystyried mai menywod oedd asgwrn cefn y streic.
Fi'n credu hwn yn bendant, heblaw am y menywod fydde'r pwysau a'r pressure ar y dynion i fynd nôl i'r gwaith wedi ennill y ffordd. Achos bod y menywod yn bodlon gweithredu a pharatoi oedd rôl y menywod yn bwysig iawn.
Codi'r arian oedd y peth pwysica. Oedd yr arian yn dod mewn o undebau, unigolion, ysgolion, Prifysgolion. So pan ddath llythyr yn y lle cynta yn gofyn i ni dderbyn cheque gan Lesbians Gays Support the Miners.
"Be?! Pwy?!" oedd yr ymateb.
A ma raid fi weud nid casineb oedd 'na neu pobl yn gas, yn grac. Ond pawb yn chwerthin. Pwy?
Ond wedyn feddylion ni, pam y'n ni'n chwerthin? Pwy bynnag yw'r bobl 'ma, 'ma nhw moyn cefnogi ni. 'Y marn i odd - os ma nhw di casglu i ni, mae angen i ni dderbyn yr arian.
A oedd y streic yn drobwynt i ti fel unigolyn?
O wrth gwrs wrth gwrs, o'n i wedi dweud, achos o'n i di priodi mor ifanc, sen i'n di lico mynd nol i neud Lefelau A, a falle i'r Brifysgol.
Ond y gwir yw, o'n i'n wleidyddol gyda g fach. Gwleidyddiaeth ni oedd gwleidyddiaeth yr undeb, Ystradgynlais, Cwm Tawe, yr Industrial Revolution; dur, glo a haearn.
O'n i gyd yn gwbod bod yr undebau yn bwysig a mewn undeb oedd nerth. Y Blaid Lafur oedd yn adlewyrchu ein anghenion ni. Felly o'n i' gyd yn deall trade union politics, o'n i'n aelod o CND er enghraifft.
Ond fi'n credu y streic oedd wedi rhoi y profiad i ni a'r gallu i ni edrych ymlaen. Ag odd pobl yn gweud "Sian, you can't stop now. You can't go back to life the way it was."
A'r gwir o'dd, o'n i'n ofan y bywyd 'na, achos am y tro cynta odd diddordeb yn y 'marn i. A nid pobl yn gweud " o twt lol, ti'm yn gwbod be ti'n siarad am" odd pobl yn gweud "ok go on 'en, if you've got something to say, then tell us." A o'dd hwnna'n rhyddid mawr mewn ffordd.
Beth am yr agweddau at y gymuned hoyw. Wnaeth yr hyn ddigwyddodd yng Nghwm Dulais ennyn cefnogaeth ehangach i bobl hoyw a'u brwydr am ragor o hawliau?
Mae'r ffilm wedi dal pennod arbennig o hanes i ni yn y cwm, a phennod arbennig o hanes Gay Rights hefyd. 'Dwi di pleidleisio lan yn San Steffan am bethe fel civil partnerships a phriodasau. Mae'r hawliau sy' da pobl hoyw a lesbiaid nawr yn hollol wahanol. Nawr ma cenhedlaeth o bobl ifanc hoyw a lesbiaid, dy'n nhw ddim yn ystyried pa mor wael oedd hi yn yr 80au.
Beth felly wnaeth eich huno chi yng Nghwm Dulais gyda'r gymuned hoyw?
Dau beth: casáu Margaret Thatcher "We all hated Maggie" a'r ffaith ein bod ni gyd yn sosialwyr. Weithiau mae rhaid 'ni neud pethe yn wahanol i newid pethach ac mi oedd hwnna yn rhan hefyd o ddatblygiad hawliau fenywod.
Odd hawl gyda ni i weithio fel grwp menywod. Fe welwyd cryfder y menywod yn cydweithio ond diolch byth nath hwnna ddim chwalu eu perthynas da'r dynion a'r grwp Lesbians and Gays Support the Miners.
Cas hyn i gyd ddylanwad mawr ar y 'mywyd i. Ond ma rhaid fi weud, oedd cwrdd a'r LGSM a'r cydweithio wedi cael dylanwad mawr arno ni fel unigolion ac fel teuluoedd.
Odd y plant ddim yn cael sioc os oedd rhywun yn dweud, dyma boyfriend/girlfriend fi. Sy'n dangos fod plant yn llawer fwy resilient.
So o'dd plant yn ein cwm ni wedi dysgu "Hey Derek's got a boyfriend. So what?"
A wyddoch chi be? Do'dd dim ots.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2015