Lee Haven Jones: Her Hamlet a'r athrylith Terry Hands
- Cyhoeddwyd
Gohebydd Celfyddydau a Chyfryngau BBC Cymru, Huw Thomas, sydd wedi bod yn cyfweld â'r actor Lee Haven Jones, sy'n chwarae rhan Hamlet yng nghynhyrchiad olaf Terry Hands fel cyfarwyddwr Clwyd Theatr Cymru. Fe fydd y cyfarwyddwr enwog yn gadael ei rôl ym mis Ebrill wedi dros 17 mlynedd yn Yr Wyddgrug.
Rydych chi'n chwarae rhan Hamlet yn y cyflwyniad yma. Ydych chi wedi chwarae'r rhan yma o'r blaen?
Naddo, dydw i erioed wedi chwarae Hamlet o'r blaen. Dyma'r tro cyntaf i fi wneud. 'Dwi wedi chwarae sawl rhan arall Shakespeare ond 'rioed Hamlet.
Mae llawer o bobl yn ystyried Hamlet fel un o rannau mwyaf poblogaidd y theatr. Ydi hynny'n rhoi mwy o bwysau arnoch chi fel actor i chwarae'r rôl yn wahanol i'r ffordd y mae hi wedi cael ei gwneud o'r blaen?
Ceisio bod yn driw i'r testun ydi'r bwriad mewn gwirionedd. O ran pwysau, oes, mae yna bwysau aruthrol i chwarae'r rhan eiconig yma.
Hefyd, mae'n her fawr i'r actor oherwydd mae'n golygu rhedeg drwy amrediad eang o deimladau. Mae'n ddrama sy'n delio gyda brad rhywiol, angerdd, galar, perthynas rhwng mam a mab a disgwyliadau tad o'i fab. Felly mae'n mynd dan groen y pethau sy'n ein gwneud ni'n ddynol mewn ffordd.
Pa fath o brofiad ydi bod ar y llwyfan yma yn Theatr Clwyd, o flaen y gynulleidfa sy'n dod i weld y ddrama yng ngogledd Cymru?
'Dwi wedi gweithio yma sawl tro erbyn hyn, rhyw chwech o weithiau. Mae'r theatr yn fendigedig. Dyma'r llwyfan fwyaf, o bosib, yng Nghymru - yn sicr i wneud dramâu confensiynol fel hyn.
Ond mae'r berthynas rhwng y gynulleidfa a'r theatr hefyd yn bwysig. Dyma'r unig theatr 'dwi'n ei 'nabod sy'n gallu denu cynulleidfa am bedair wythnos i rywbeth fel Hamlet neu pha bynnag ddrama maen nhw'n ei roi yma.
Mae'r Terry [Hands] yma hefyd, ac mae ei wybodaeth e' o Shakespeare yn encyclopedic mewn ffordd, ac mae wedi gwneud sawl cynhyrchiad dros y byd i gyd, ac felly mae'n fraint cael gweithio gydag ef.
Ydi cael Terry Hands wrth y llyw wedi sicrhau bod gan Theatr Clwyd yr enw da yma ar gyfer dramâu fel hyn?
Yn sicr. Pan gyrhaeddodd e' nol yn 1997 mi oedd y theatr yn dioddef i raddau o'r ffaith nad oedd rhyw lawer o Gymry, actorion Cymraeg, a phobl greadigol Cymraeg yn gweithio yma.
Erbyn hyn mae wedi magu rhyw fath o ensemble Cymraeg, yn llawn actorion o Gymru. Yn y cynhyrchiad yma mae saith o bobl allan o'r 13, felly mae mwy na hanner, yn siarad Cymraeg. Mae hynny'n dipyn o beth, bod y dyn yma o'r Royal Shakespeare Company, o Loegr, wedi llwyddo i greu'r ensemble Cymreig, a Chymraeg yma.
Oes gwers i theatrau eraill Cymru yma, gyda Theatr Clwyd yn amlwg yn dda iawn o ran safon y gwaith a'r arweinyddiaeth sydd yma?
Yn sicr, mae 'na wers, sef datblygu ensemble cryf o actorion sydd yn gweithio gyda'i gilydd yn gyson, ac sydd yn datblygu rhyw fath o ieithwedd y maen nhw'n ei rannu. Mae hynny'n sicr yn effeithio ar ansawdd perfformiadau.
Mae rhyw fath o eirfa gyda ni fel actorion sydd wedi gweithio yma. Rydyn ni'n datblygu perthnasau ac mae hynny'n cyfoethogi'r gwaith.