Terry Hands: 'Gormod o gyfrifwyr yn rhedeg theatrau'
- Cyhoeddwyd
Mae un o gyfarwyddwyr mwyaf dylanwadol Cymru wedi beirniadu'r "cyfrifwyr" a'r "dynion busnes" sy'n rhedeg theatrau.
Mae Terry Hands ar fin ymddeol ar ôl 17 mlynedd yn gyfrifol am Clwyd Theatr Cymru yn Yr Wyddgrug.
Mae wedi galw am i actorion a chynhyrchwyr gael mwy o lais wrth benderfynu sut y caiff arian cyhoeddus ei wario.
Mae Hands hefyd yn credu fod angen mwy o theatrau yng Nghymru er mwyn cynhyrchu mwy o sioeau yn hytrach na dibynnu ar gynyrchiadau teithiol.
Dywedodd fod polisi'r Cyngor Celfyddydau yng Nghymru wastad wedi ffafrio'r cynyrchiadau teithiol, oherwydd ar bapur maent yn edrych yn rhatach.
"Ond ni allwch redeg theatr gyda chyfrifwyr, mae'n rhaid i chi redeg â phobl," meddai.
"A thrwy gael cynyrchiadau teithiol, mae'n rhaid iddynt gael eu rhedeg gan reolwyr. Os oes gennych theatr gymunedol 'go iawn', gyda chynulleidfa go iawn sy'n datblygu actorion, bysa'r cwmni yn ffynnu."
FFEITHIAU: TERRY HANDS
Ganwyd yn Hampshire, yn 1938;
Addysgwyd ym Mhrifysgol Birmingham ac Academi Frenhinol y Celfyddydau Dramatig;
Sefydlodd Theatr yr Everyman yn Lerpwl;
Treuliodd 25 mlynedd yn y Royal Shakespeare Company, fel cyfarwyddwr, a chyfarwyddwr artistig 1978-1991;
Bu'n gyfarwyddwr a phrif weithredwr Clwyd Theatr Cymru yn yr Wyddgrug ers iddo achub y theatr rhag cau yn 1997;
Dyfarnwyd y CBE iddo yn 2007;
Mae wedi ennill tair gwobr Olivier a thri enwebiad Tony;
Mae wedi cyfarwyddo opera ym Mharis ac yn y Tŷ Opera Brenhinol;
Hamlet (ar y dde) yw ei gynhyrchiad terfynol cyn ei ymddeoliad.
"Mae cryfder y ddrama yng Nghymru yn enfawr, mae'r dalent yn y wlad yn anhygoel," meddai.
"Ond os ydych yn parhau i gael eich rheoli gan gyfrifwyr a phobl nad ydynt mewn gwirionedd yn gwybod bod llawer am y theatr, yna ni all pobl fynegi eu hunain.
"Felly, byddant i gyd yn mynd i Loegr, lle mae gan bob tref ei theatr ei hun - ac nid dim ond tŷ derbyn, ond tŷ sy'n cynhyrchu"
Dywedodd Hands fod Cymru yn colli allan tra bod cynulleidfaoedd yn efelychu cefnogwyr pêl-droed.
"Dydyn nhw ddim eisiau mynd i Anfield i weld grŵp gwahanol o bobl yn chwarae bob wythnos, gan nad oes ganddynt unrhyw fuddsoddiad ynddynt," meddai.
"Nid ydych am weld dim ond cynyrchiadau sy'n deithiol, maent yn iawn weithiau - fel rhyw fyrbryd - ond dylai'r sioeau go iawn fod yn rhai sydd wedi' datblygu o'r gymuned."
Fodd bynnag, dywedodd bod Cymru yn lwcus gyda chyllid, gyda'r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn gefnogol a bod yr amodau yma yn llawer gwell nag yn Lloegr.
"Ond byddwn wrth fy modd yn gweld theatrau mwy parhaol yng Nghymru," ychwanegodd.
Dywedodd Cyngor Celfyddydau Cymru bod Terry Hands wedi cyflawni "llwyddiant rhyfeddol" a bod "ansawdd y gwaith sydd wedi bod o dan ei arweiniad yn siarad dros ei hun".
"Fodd bynnag, ar gyfer y cynulleidfaoedd hynny nad ydynt yn gallu teithio i'r Wyddgrug, cynyrchiadau teithiol yn aml yw eu hunig gyfle i brofi theatr broffesiynol," meddai'r cyngor.
"Fel corff cenedlaethol sy'n dosbarthu arian trethdalwyr Cymru, mae Cyngor y Celfyddydau yn teimlo cyfrifoldeb arbennig i bobl ar draws Cymru gyfan.
"Dyna pam yr ydym yn cefnogi tri o gynhyrchwyr theatr sy'n seiliedig mewn adeiladu, yn ogystal â Clwyd Theatr Cymru, mae Sherman Cymru yng Nghaerdydd, a Theatr y Dorch yn Aberdaugleddau. Yn ogystal ag ystod amrywiol o theatr deithiol sydd wedi ennill gwobrau o safon uchel."
Un o'r cwmnïau hynny yw National Theatre Wales.
Dywedodd John McGrath, cyfarwyddwr artistig NTW, eu bod yn dod â theatr i gynulleidfaoedd eang ar daith.
"Mae gan Theatr Clwyd fel NTW gefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru i roi theatr wych ar y llwyfan," meddai.
"Heb y gefnogaeth honno ni allem wneud dim i ddigwydd. Mae'n dangos pan fyddwch yn gwneud y math hwnnw o fuddsoddiad mae'n boblogaidd ac yn hygyrch i ystod eang o bobl."