Dioddefwraig yn galw am wersi trais yn y cartref

  • Cyhoeddwyd
Rachel Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rachel Williams yn anhapus gyda chynnwys y ddeddf

Mae dynes gafodd ei saethu gan ei gŵr wedi galw am ddeddf i sicrhau y bydd materion trais yn y cartref yn cael eu dysgu mewn ysgolion.

Cafodd Rachel Williams ei saethu mewn salon trin gwallt yng Nghasnewydd yn 2011, cyn i'w gŵr Darren, ladd ei hun.

Wythnosau yn ddiweddarach, cafodd ei mab Jack, 16 oed, ei ddarganfod wedi lladd ei hun.

Ond fe allai'r ddeddf 'Trais yn erbyn Merched' fethu yn y Senedd, gan nad yw'r ddeddf yn cynnwys ei gwneud yn ddyletswydd ar ysgolion i addysgu'r pwnc.

'Parch a chariad'

Fe wnaeth Ms Williams ddioddef camdriniaeth ddomestig am 18 mlynedd, gan ddechrau pan oedd hi'n feichiog.

Yn y diwedd, fe adawodd ei gŵr cyn gwneud cais am ysgariad, ond fe ddaeth ei gŵr i'r salon lle'r oedd Ms Williams yn gweithio gyda gwn.

Cafodd Ms Williams ei saethu yn ei phen-glin a chafodd dau o gwsmeriaid y salon hefyd eu hanafu.

Mae Ms Williams yn pryderu bod y cynnig i addysgu materion yn ymwneud â thrais yn y cartref mewn ysgolion ar goll o'r ddeddfwriaeth newydd.

Hoffai weld y materion yn cael eu trafod mewn gweithdai ysgolion, yn ogystal â bod yn rhan o rai gwersi.

Dywedodd: "Os ydych chi'n dysgu beth yw parch a chariad, yna nid oes llawer yn gallu mynd o'i le.

"Efallai na fydd yn bwnc fel mathemateg a Saesneg, ond mae'n rhan o fywyd bob dydd, mae'n ymwneud a pharch, nid yn unig parch at eich partner, ond at bobl yn gyffredinol.

"Dylid eu haddysgu i gymryd teimladau pobl i ystyriaeth a bod hyn yn rhywbeth arferol - yn hytrach na churo a phoeri ar eich cariad neu eu trin yn wael fel y digwyddodd i mi."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Jocelyn Davies AC bod addysg yn elfen 'hanfodol' o'r ddeddf

Mae gweinidogion llywodraeth Cymru wedi disgrifio'r ddeddf fel un sy'n "torri tir newydd."

Ond pan gafodd y mesur ei gyflwyno yn y Cynulliad yr haf diwethaf, roedd y cynigion addysg wedi eu dileu.

Nawr, mae'r gwrthbleidiau wedi dweud wrth BBC Cymru oni bai bod y cynigion hyn yn cael eu hychwanegu at y mesur, ni fyddant yn ei gefnogi.

Oherwydd nad oes gan Llafur fwyafrif yn y Cynulliad, ni fyddai modd i'r mesur ddod yn gyfraith.

'Siomedig iawn'

Jocelyn Davies AC yw llefarydd Plaid Cymru ar gam-drin domestig yn ogystal â bod yn gadeirydd grŵp trawsbleidiol ar y mater.

Dywedodd nad yw cael "hyrwyddwyr" ar gyfer pob cyngor yr un fath ag addysgu perthnasoedd iach a pharch yn yr holl ysgolion, fel yr hyn a oedd wedi cael ei "groesawu gan bawb" pan gyhoeddwyd y ddeddf am y tro cyntaf.

"Ar ôl i ni weld y mesur a sylwi nad oedd hyn wedi ei gynnwys, roeddem yn siomedig iawn," meddai.

"Dydw i ddim yn gweld y ddeddf yn cyflawni'r hyn yr oeddem wedi gobeithio iddi ei gyflawni heb gynnwys y cymal yma. Oni bai fod newid agwedd gan y llywodraeth, ni allaf weld fy hun yn cefnogi'r mesur."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y gwrthbleidiau yn ymwybodol bod y gweinidog yn parhau i ystyried yr hyn a oedd yn bosib o safbwynt diwygiadau addysgol ychwanegol i'r ddeddf, ac mae trafodaethau'n parhau.

Mae disgyblion ysgol yn paratoi cardiau Sant Ffolant arbennig gyda negeseuon i'r Senedd yn annog y gweinidogion i newid eu meddyliau.