Dod o hyd i drysor o'r Oes Efydd
- Cyhoeddwyd
Mae Crwner Gogledd Orllewin Cymru wedi penderfynu y bydd eitemau aur a chopr o ardal Ynys Môn sydd, o bosib, yn 3,000 oed yn cael eu cofnodi fel trysor.
Cafodd y celc sy'n cynnwys modrwy aur fylchgrwn a thri darn ingot copr, eu darganfod yng nghymuned Cwm Cadnant ym mis Mai a Mehefin 2013 gan Philip Cooper o Gricieth.
Mae'r penderfyniad yn golygu y bydd Mr Cooper yn gallu elwa o'i ganfyddiad ar ôl iddyn nhw gael eu gwerthu.
Fel rheol mewn achosion o'r fath mae'r arian yn cael ei rannu rhwng y tirfeddiannwr a'r person wnaeth ddod o hyd i'r trysor.
Cafodd yr arteffactau eu canfod ychydig fetrau ar wahân wrth ddefnyddio datgelydd metel ar dir fferm.
Mae'n debyg iddyn nhw gael eu claddu gyda'i gilydd yn wreiddiol, ond eu bod wedi cael eu symud a'u gwahanu - mwy na thebyg o ganlyniad i waith ffermio.
Band aur
Yn ôl arbenigwyr fe allai'r trysor ddyddio o tua 1000-800 CC, neu 3,000-2,800 o flynyddoedd yn ôl.
Fe dderbyniodd Ian Jones, curadur yn Oriel Ynys Môn, Llangefni, a Roland Flook archeolegydd curadurol o Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd, wybodaeth am y darganfyddiad gyntaf, cyn i archeolegwyr yn Amgueddfa Cymru gael eu hysbysu.
Mae'r fodrwy aur wedi'i haddurno gyda stribed arian sydd wedi'i throelli o amgylch y band aur.
Dywedodd Adam Gwilt, Prif Guradur Cynhanes Amgueddfa Cymru:
"Mae'r fodrwy wallt aur yn un gelfydd, oedd yn cael ei gwisgo gan ddyn neu fenyw o bwys o fewn eu cymuned. Gallai'r aur fod wedi dod o Gymru neu Iwerddon.
Oes Efydd
"Mae gan y darnau o ingot copr gysylltiad pwysig â'r fodrwy. Byddai'n ddiddorol gwybod os cawsant eu cludo a'u cyfnewid o bell, neu eu creu o fwynau lleol Mynydd Parys neu'r Gogarth."
Mae nifer arwyddocaol o fodrwyau gwallt yn cael eu darganfod ledled Iwerddon a Lloegr, gyda rhai hefyd yn yr Alban, Ffrainc, Gwlad Belg a'r Iseldiroedd.
Yng ngogledd orllewin Cymru, mae enghreifftiau tebyg wedi eu canfod yn Nhrearddur, Ynys Môn a Graianog, Gwynedd.
Wedi cael ei brisio yn annibynnol, bydd y celc yn cael ei gaffael gan Oriel Ynys Môn, gan ddefnyddio arian o Gronfa Dreftadaeth y Loteri.
Dywedodd Ian Jones, Swyddog Curadurol yn Oriel Ynys Môn, Llangefni: "Bydd y trysorau lleol cyffrous hyn yn cyfoethogi ein casgliadau presennol, ac yn rhoi cyfle i'n hymwelwyr weld enghraifft o addurn cywrain gafodd ei wisgo diwethaf yn ystod yr Oes Efydd.
"Mae'r darganfyddiadau hefyd yn pwysleisio gwerth metalau megis aur, copr ac efydd fel nwyddau i'w cyfnewid a'u defnyddio."