Datrys anghydfod gweithwyr Roadchef

  • Cyhoeddwyd
RoadchefFfynhonnell y llun, Roachef

Mae dyn fu'n rhan o frwydr gyfreithiol 20 mlynedd o hyd i geisio sicrhau cyfran o werthiant cwmni Roadchef i'r gweithwyr, wedi codi ei lais am y tro cyntaf.

Roedd Tim Warwick yn ysgrifennydd y cwmni pan wnaeth o fynegi pryder am y modd oedd cyfran y staff yn cael ei reoli.

Nawr, bydd cannoedd o weithwyr presennol, a rhai o'r gorffennol, yn derbyn ad-daliad pum ffigwr.

Fe ddigwyddodd y dadlau wedi i Reolwr Gyfarwyddwr Roadchef - Patrick Gee - nodi y byddai 20% o gyfrannau'r cwmni yn cael eu rhannu rhwng staff. Bu farw Mr Gee cyn i'r cynllun ddwyn ffrwyth.

Fe gafodd ei olynydd - Timothy Ingram Hill - ei gyhuddo o ddal ei afael ar y cyfranddaliadau, gan olygu iddo fod ar ei ennill o £27 miliwn pan gafodd Roadchef ei werthu yn 1998.

Drwy gronfa, fe brynodd Mr Ingram Hill nifer sylweddol o gyfranddaliadau'r cynllun staff.

Fe effeithiodd hyn ar oddeutu 600 o weithwyr pan gafodd y busnesau eu gwerthu.

Am gyfnod, Mr Ingram Hill oedd cyfarwyddwr y cynllun cyfrannau staff.

'Yn anghywir'

Disgrifiad o’r llun,

Tim Warwick oedd y cyntaf i fynegi ei bryder am y cynllun cyfranddaliadau staff

Mewn cyfweliad â BBC Cymru, fe ddywedodd Tim Warwick y byddai'n gwneud union yr un fath eto, petae achos tebyg:

"Roedd e'n anghywir. Roedd be' oedd e'n wneud yn anghywir.

"Roedd y gŵr 'nath sefydlu'r gronfa eisiau i'r staff rannu yn llwyddiant y cwmni.

"Oherwydd y ffor' a'th pethe', yr unig berson welodd unrhyw elw, oedd Tim Ingram Hill, y cadeirydd."

'Achos personol iawn'

Mae Guto Llywelyn yn gyfreithiwr gyda Capital Law, fu'n cynrychioli'r gweithwyr:

"Ma' hwn di bod yn achos personol iawn i'r gweithwyr. Yn ôl yn y 90au, Roadchef oedd un o'r cwmnïau cyntaf i ddod â'r model yma lle bo'r gweithwyr yn rhannu ym mherchnogaeth y cwmni.

"Pan symudodd Mr Timothy Ingram Hill gyfranddaliadau o un cwmni i'r llall er budd ei hun, ac er colled y gweithwyr, un o'r prif broblemau oedd yn wynebu'r gweithwyr oedd dwyn achos yn ei erbyn o, ac ariannu'r achos hwnnw."

Ychwanegodd Mr Llywelyn fod Tim Warwick yn rhan hanfodol o'r achos i geisio ad-ennill cyfranddaliadau'r gweithwyr.

'Dyletswydd cyfreithiol'

Fe ddyfarnodd yr Uchel Lys fod Mr Ingram Hill wedi torri rheolau ei ddyletswydd cyfreithiol i weithredu ar ran y staff.

Does dim awgrym iddo ymddwyn yn anghyfreithlon, fodd bynnag.

Mae'r rhai hynny fu'n rhan o'r ddadl wedi trefnu setliad y tu allan i'r llys yn ddiweddar.

Dyw perchnogion a rheolwyr presennol Roadchef ddim yn rhan o'r anghydfod.