Eisteddfod yr Urdd: Cystadlu o Batagonia
- Cyhoeddwyd
Bydd dau o Archentwyr ifanc o Batagonia, yn defnyddio technoleg i allu cystadlu yn un o rowndiau rhanbarthol Eisteddfod yr Urdd.
Bydd Guillermo Javier Thomas a Florencia Giselle Zamareno, yn cystadlu yn Eisteddfod ranbarthol yr Urdd tu allan i Gymru, sy'n cael ei chynnal dydd Sadwrn, 14 Mawrth yn Eglwys Gymraeg Canol Llundain, gan wneud hynny dros Skype.
Dyma fydd y tro cyntaf i Guillermo, sydd yn wreiddiol o'r Gaiman, gystadlu yn yr Eisteddfod ac fe fydd yn teithio i Gymru erbyn Eisteddfod yr Urdd Caerffili a'r Cylch, waeth beth fydd canlyniad yr Eisteddfod ranbarthol.
'Rhwydweithiau cymdeithasol'
Dywedodd: "Dwi'n meddwl ei bod yn ddiddorol sut yr ydym yn defnyddio'r rhwydweithiau cymdeithasol i fyrhau pellteroedd - ac yn yr achos yma, rhoi cyfle i mi gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd.
"Rwyf ychydig bach yn nerfus o ran sut fydd y dechnoleg yn gweithio - ac os gall y beirniaid wir werthfawrogi'r perfformiad yn defnyddio camera a microffon ar gyfrifiadur.
"Mi fyddaf yn canu ac yn adrodd yn fy fflat yn La Planta, Buenos Aires ble rydw i yn mynd i'r Brifysgol, yn gwybod efallai y bydd y cymdogion yn gallu fy nghlywed a ddim yn deall unrhyw beth!"
'Technoleg'
Mae disgwyl i tua 100 gystadlu yn Llundain, gan gynnwys aelodau'r Urdd o Ysgol Gymraeg Llundain, Aelwyd Llundain ac aelodau unigol o bob rhan o Brydain.
Bydd Florencia Giselle Zamareno o'r Gaiman yn cystadlu ar yr unawd offerynnol 19 - 25 oed gyda'r gitâr a Guillermo yn cystadlu ar yr alaw werin unigol a'r llefaru unigol, y ddwy gystadleuaeth 19 - 25 oed.
Tydi cystadlu dros Skype ddim yn brofiad newydd i rai o gystadleuwyr yr Urdd, gyda phlant a phobl ifanc o Bahrain a Singapore eisoes wedi'i ddefnyddio, ond dyma'r tro cyntaf i gyswllt gael ei wneud gyda'r Wladfa.
Dywedodd Leah Owen-Griffiths, trefnydd yr Eisteddfod tu allan i Gymru: "Rydym yn gyffrous iawn fod gennym ddau eleni yn cystadlu dros Skype o'r Wladfa - mae'n braf fod y dechnoleg gennym bellach fel bod aelodau o bob cornel o'r byd yn gallu cystadlu yn yr Eisteddfod."