Y Cynulliad yn gwrthod 007

  • Cyhoeddwyd
Daniel Craig
Disgrifiad o’r llun,

'The name's banned - James Banned!'

Mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi gwrthod cais gan wneuthurwyr y ffilm James Bond newydd i ddod â chamerâu i mewn i Siambr y Senedd ym Mae Caerdydd.

Deellir bod y criw sydd wrthi'n ffilmio 'Spectre' wedi gwneud cais yn wythnosau olaf 2014 i ffilmio rhai golygfeydd yno.

Eisoes mae'r Cynulliad wedi gweithio gyda chynhyrchwyr teledu cyfresi poblogaidd fel Dr.Who, ond Dr.No oedd yr ateb i griw Spectre.

Mewn datganiad dywedodd y Cynulliad:

"Mae Siambr y Senedd yn gartref i ddemocratiaeth Gymreig a llywodraeth i Gymru. Mae peth gweithgaredd gan y cyfryngau yn cael ei ganiatáu yn y Siambr pan mae'n ymwneud â gwaith y Cynulliad neu'n adlewyrchu statws y Siambr fel canolbwynt bywyd Cymreig.

"Nid yw'n stiwdio ddrama.

"Mae penderfyniadau ar geisiadau gan y diwydiannau creadigol i ddefnyddio ystâd y Cynulliad yn cael eu gwneud ar sail y ceisiadau unigol, ac rydym yn falch o fod wedi cydweithio gyda nifer o gwmnïau teledu a ffilm ar gynyrchiadau fel Sherlock a Dr.Who.

"Cafodd y cais gan James Bond i ddefnyddio'r Siambr ei wrthod... fe gawson nhw gynnig i ddefnyddio lleoliadau eraill ar yr ystâd, ond fe gafodd y cynnig ei wrthod."

Methu cyfle?

Dywedodd cyn brif weithredwr Sgrin Cymru, sy'n hyrwyddo'r diwydiant ffilm a theledu yng Nghymru, bod cyfle wedi ei fethu.

"Dwi'n meddwl ei fod yn gyrru negeseuon cymysg am Gymru ar agor i fusnes a'i fod yn y rhan o'r byd ffilm rhyngwladol," meddai Berwyn Rowlands.

"Dwi'n deall yn iawn mai'r Senedd yw cartref democratiaeth, ond os oedd y Frenhines yn fodlon agor Palas Buckingham i gynhyrchwyr film ar gyfer seremoni agoriadol y Gemau Olympaidd i gael ei weld o amgylch y byd, yna mae hyn yn siomedig.

"Dydw i ddim yn siŵr os oedd y Cynulliad wedi gweld y sgript ac yn gwybod yn union beth fyddai'n mynd ymlaen yna. Petai'n bosib i gynhyrchwyr Bond ffilmio yna - efallai dros nos - a pheidio tarfu ar ddemocratiaeth yna byddai hynny yn iawn."

Ychwanegodd: "Mae Cymru wastad wedi bod yn boblogaidd gyda'r diwydiant ffilm ac mae'r rhesymau yn glir: mae gyda ni bopeth y byddai ei angen ar leoliad ffilm, gyda mynyddoedd, llynnoedd a'r môr ac ati, oll yn agos i Lundain."