Merch 10 oed â chanser yn sefydlu elusen i helpu plant sy'n sâl

Mae Jasmine a'i mam Danielle wedi casglu tua £20,000 hyd yma
- Cyhoeddwyd
Mae merch 10 oed o'r Rhyl, sydd â math prin o ganser yr afu, wedi sefydlu elusen i gynnig diwrnodau arbennig i blant sy'n wynebu triniaethau hir a heriol.
Cafodd Jasmine ei hysbrydoli i greu elusen Jazzy's Gestures gan ei hawydd ei hun am ddiwrnodau allan ar ôl cyfnodau hir yn yr ysbyty, gan ganiatáu i blant ddewis pa brofiad maen nhw eisiau.
Dywedodd ei bod hi am i eraill gael yr un profiadau a "chreu atgofion... heb boeni am yr arian".
Hyd yma mae'r fenter wedi codi tua £20,000 ac wedi helpu 15 o deuluoedd, gyda chymorth ei mam, Danielle, a'i ffrindiau.

Mae Jasmine wedi cael sawl cyfnod yn yr ysbyty am driniaeth
Mae Jasmine wedi bod i mewn ac allan o'r ysbyty ers ei diagnosis ym mis Tachwedd 2023, gan gynnwys sawl derbyniad oherwydd methiant y galon a thriniaethau cemotherapi dwys.
Dywedodd ei mam, Danielle ei bod wedi colli llawer o ddiwrnodau teuluol a'i bod weithiau'n gorfod treulio hyd at 72 awr yn cael cemotherapi, gan ei gadael yn drist ac ynysig.
"Byddai hi'n drist iawn, iawn. Felly mae wedi bod yn anodd iddi, ond mae hi wedi delio â'r peth."
Esboniodd Jasmine ei bod eisiau i'r elusen fod yn hyblyg, gan ganiatáu i bob plentyn ddewis eu diwrnod yn hytrach na chael taleb ar gyfer "lle penodol" ar "amser penodol".

Er ei bod adref, mae Jasmine yn dal i gael ymweliadau cyson gan nyrs arbenigol
Disgrifiodd nyrs oncoleg Jasmine, Ellen Moseley, y ferch 10 oed fel person "arbennig" sy'n parhau i fod yn "hapus a disglair" er gwaethaf triniaethau dwys, gan gynnwys trallwysiadau gwaed a sawl llawdriniaeth.
Dywedodd Ms Moseley bod Jazzy's Gestures yn elusen "anhygoel", yn enwedig am y ffordd y mae'n ystyried anghenion plant a allai, er enghraifft, fod â system imiwnedd wan.
Ychwanegodd: "Mae'n braf eu bod nhw'n teilwra'r diwrnod sy'n addas iddyn nhw ac yn cael yr amser arbennig hwnnw gyda'u teulu. Mae'n wirioneddol, wirioneddol bwysig."

Y Nadolig yw'r ffocws nesaf i'r elusen
Mae Jasmine bellach yn ôl yn yr ysgol yn rhan-amser tra'n parhau â chemotherapi gartref, ac mae'n gwneud bagiau gweithgareddau wedi'u teilwra i blant sy'n treulio amser mewn apwyntiadau ysbyty.
Mae hi a'i mam hefyd yn cynllunio i greu basgedi Nadolig ar gyfer y teuluoedd sy'n cael eu cyfeirio at yr elusen, gyda Jasmine yn dweud ei bod yn "braf gallu helpu".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd12 Tachwedd
