Ymddygiad ymosodol, hiliol a homoffobig yn 'norm' mewn ysgolion

Dywedodd 40% o ddisgyblion eu bod nhw wedi gweld ymddygiad treisgar neu gas yn eu hysgol neu goleg
- Cyhoeddwyd
Mae nifer o fyfyrwyr Cymru'n teimlo'n "ofnus" a "heb gefnogaeth" yn y dosbarth wrth i ymddygiad gwael ac ymosodol ddod yn rhan arferol o fywyd ysgol, yn ôl adroddiad newydd gan Senedd Ieuenctid Cymru.
Mae'r adroddiad yn dweud bod yr effaith fwyaf i'w weld ar grwpiau lleiafrifol gan gynnwys plant ag anableddau neu ddisgyblion LHDTC+.
Yn ôl dau fyfyriwr sydd wedi siarad gyda BBC Cymru Fyw, mae ymladd, bwlio a sylwadau hiliol a homoffobig yn rhan arferol o fywyd ysgol i lawer.
Maen nhw'n galw ar Lywodraeth Cymru ystyried ychwanegu gwersi penodol i addysgu disgyblion o oedran ifanc o'r hyn sy'n annerbyniol, ac i ystyried cyfyngu mynediad pobl ifanc i'r cyfryngau cymdeithasol.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "gweithio gyda'r sector addysg i daclo materion ymddygiad mewn ysgolion er mwyn sicrhau eu bod yn fannau diogel i staff a dysgwyr".
Galw am ymgyrch genedlaethol i wella ymddygiad disgyblion
- Cyhoeddwyd8 Mai
Ymddygiad mewn colegau wedi gwaethygu, medd Estyn
- Cyhoeddwyd1 Mai
Mae Olive, 16 oed, yn astudio yn y chweched dosbarth yng Nghaerdydd.
"Yn fy mhrofiad i, tydi'r ffordd mae pobl yn ymddwyn yn yr ysgol heb fod yn dda iawn," meddai.
"Disgyblion ddim yn gwrando ar yr athrawon, diffyg parch hefyd, pobl yn siarad dros yr athrawon ac yn galw enwau ar ei ffrindiau ac yn meddwl na fydd athrawon yn stopio nhw."
Mae Olive yn rhan o grŵp LHDTC+ ei hysgol. Mae adroddiad y Senedd Ieuenctid yn dangos bod disgyblion sy'n rhan o grwpiau lleiafrifol yn fwy tebygol o brofi ymddygiad gwael yn yr ysgol.
"Nes i ymuno gyda'r grŵp ar ôl i fy chwaer dod allan i fi. O'n i wedi cael digon o glywed pobl yn yr ysgol yn gweud pethau hiliol a homoffobig.
"O'n i'n clywed profiadau ffrindiau hefyd o wynebu sylwadau tebyg ac o'n i isie gwneud rhywbeth am y peth."
Ychwanegodd: "Mae grwpiau LHDTC+ yn cael eu targedu dwi'n meddwl, mae sylwadau cas yn cael eu clywed gan bobl ac maen nhw'n gwneud jôc am y peth ac yna mae rhywun arall yn defnyddio fe ac mae fe bron yn cael ei normaleiddio.
"Ond dydy e ddim yn normal neu'n iawn, ac mae angen i bobl ddysgu hwnna."

Mae Olive yn meddwl bod hiliaeth a homoffobia yn dod yn fwy arferol ymhlith disgyblion ysgol
Mae Olive nawr yn cynrychioli'r grŵp yn y Senedd Ieuenctid. Mae'n teimlo bod y cyfryngau cymdeithasol a diffyg addysg wrth wraidd y cynnydd yn ymddygiad treisgar a sylwadau cas.
"Bydd ffrindiau fi ddim yn hapus i glywed bod fi'n credu hwn ond dwi yn meddwl bod angen i ni gyfyngu defnydd y cyfryngau cymdeithasol i bobl ifanc, fel mae Awstralia'n gwneud," meddai.
"Fi wedi blino'n aros i'r cwmnïau yma i wneud unrhyw beth i reoli'r sefyllfa.
"Mae llawer o blant yn cael eu heffeithio pob diwrnod gan yr ymddygiad yma ar-lein ac mae'n dysgu casineb i bobl heb iddyn nhw sylwi. Mae angen gwneud rhywbeth."
40% wedi gweld ymddygiad treisgar
Clywodd adroddiad Pwyllgor Trosedd a Diogelwch y Senedd Ieuenctid brofiadau bron i 2,000 o bobl ifanc ledled Cymru.
Dywedodd 40% eu bod nhw wedi gweld ymddygiad treisgar neu gamdriniol yn eu hysgol neu goleg.
Ond dim ond 19% oedd yn ei ystyried yn broblem, gyda'r mwyafrif yn dweud eu bod nhw'n teimlo'n ddiogel lle maen nhw'n cael eu haddysg.
Yn ôl y pwyllgor, mae'r bwlch hynny'n dangos bod y fath ymddygiad wedi dod yn norm, gyda myfyrwyr yn barod i dderbyn amgylchiadau na ddylid eu goddef.
Roedd disgyblion ag anableddau 12% yn fwy tebygol o adrodd profiadau gwael a disgyblion LHDTC+, yn enwedig y rhai oedd yn uniaethu fel traws neu'n rhyweddhylifol (gender-fluid), yn nodi'n gyson eu bod yn teimlo'n llai diogel.

Fel aelod o'r Senedd Ieuenctid mae Awel yn meddwl bod angen i'r llywodraeth wneud mwy i wella ymddygiad o fewn ysgolion
Mae aelod arall, Awel, yn dweud nad yw hi'n meddwl bod ymddygiad gwael yn effeithio ar ei bywyd ysgol hi llawer.
Ond, mae'n ymwybodol nad yw hynny yn wir i bawb. Mae cyd-ddisgyblion wedi dweud wrthi eu bod nhw'n cael "trafferth canolbwyntio" ac yn "ofni" bod rhywbeth yn mynd i ddigwydd.
Bellach yn aelod o'r Senedd Ieuenctid, mae Awel yn meddwl bod yr adroddiad yn dangos bod angen i'r llywodraeth wneud mwy.
"Mae angen addysgu pobl. Falle gwers pob pythefnos neu rywbeth tebyg sy'n helpu pobl deall ymddygiad gwael.
"Hefyd mae angen dysgu pobl sy'n dioddef bwlio ble i fynd pan mae fe'n digwydd. Mae hwnna'n hollbwysig."
'Angen llais cryfach i ddisgyblion'
Thema sy'n codi dro ar ôl tro yn yr adroddiad yw methiant ysgolion i gydnabod ac ymateb i anghenion unigryw'r grwpiau hyn.
Mae'r Senedd Ieuenctid yn galw ar ysgolion i weithredu fel nad yw'r disgyblion yma yn "parhau i wynebu mwy o risgiau a rhwystrau i'w haddysg".
Maen nhw'n galw am "lais cryfach i ddisgyblion", gan alw ar ysgolion i wrando ar bobl ifanc wrth iddyn nhw lunio polisiau ynghylch diogelwch yn yr ysgol.
Mewn ymateb dywedodd Llywodraeth Cymru: "Hoffem ddiolch i'r Senedd Ieuenctid am eu hadroddiad a byddwn yn ymateb i'r argymhellion maes o law.
"Mae unrhyw fath o drais neu gamdriniaeth tuag at staff neu ddysgwyr yn ein hysgolion yn gwbl annerbyniol.
"Rydym yn gweithio gyda'r sector addysg i daclo materion ymddygiad mewn ysgolion er mwyn sicrhau eu bod yn fannau diogel i staff a dysgwyr.
"Mae gwaith eisoes wedi dechrau ar flaenoriaethau a amlinellwyd gan yr Ysgrifennydd Addysg yn dilyn Huwchgynhadledd Ymddygiad.
"Mae addysg cyd-berthynas a rhywioldeb yn ein cwricwlwm yn dysgu pobl ifanc i gydnabod a diogelu eu hunain rhag ymddygiadau niweidiol, ar-lein ac all-lein, gan gynnwys gwahaniaethu, trais a chamdriniaeth.
"Yn ddiweddar fe wnaethom gyhoeddi dros £4 miliwn i gefnogi ymhellach sut caiff addysg cyd-berthynas a rhywioldeb ei chyflwyno ledled Cymru."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.