Collais fy nheulu, partner a chartref ar ôl dod yn gaeth i cetamin

Llun pen ac ysgwyddau o ddyn yn ei 20au yn edrych at y camera ac yn gwenu ychydig. Mae ganddo wallt brown tywyll byr, aeliau tywyll amlwg a llygaid brown. Mae ganddo farf a mwstas brown byr ac mae'n gwisgo crys-t du gyda siaced tracsiwt batrymog wyrdd ar agor dros y crys-t. Mae bwrdd biliards i'w weld y tu ôl iddo, ac mae'r llenni gwyn patrymog wedi'u tynnu ar draws y ffenestr y tu ôl i hynny.
Disgrifiad o’r llun,

Mae iechyd Wesley Lloyd-Roberts wedi dioddef yn sgil ei ddefnydd o cetamin

  • Cyhoeddwyd

Er ei fod wedi cymryd cetamin o'r blaen, dechreuodd Wesley Lloyd-Roberts defnyddio'r cyffur o ddifri' yn 18 oed tra ar ei wyliau yn Ibiza.

Gwaethygodd pethau ar ôl iddo ddod adref i Benmaenmawr, Gwynedd, a hynny oherwydd, yn ôl Wesley, roedd y cyffur "ym mhobman yn reit sydyn".

Daeth yn ddefnyddiwr cyson o'r cyffur dosbarth B, gan arwain at broblemau iechyd fel anymataliaeth (incontinence), poen yn ei arennau, ei bledren a'i afu, yn ogystal â thrawma meddyliol.

Mae ffigyrau newydd yn dangos bod nifer y bobl sydd wedi ymweld ag adrannau brys ysbytai Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn sgil effeithiau cetamin wedi cynyddu'n sylweddol, o ddau yn 2020 i 372 y llynedd.

Dros y tair blynedd diwethaf, mae nifer y cleifion sydd wedi cael eu derbyn i'r ysbyty yng ngogledd Cymru yn uwch na chyfanswm y pedwar bwrdd iechyd arall yng Nghymru a ymatebodd i gais rhyddid gwybodaeth.

Mae dyn ifanc â gwallt brown tywyll a barf frown fyr a mwstas yn chwarae ar fwrdd biliards. Mae'n dal ciw gyda'i fraich dde wedi'i thynnu'n ôl ac mae pen y ciw yn cyffwrdd â'r bêl wen. Mae dwy bêl felen ar y bwrdd i'r dde. Mae'r dyn yn gwisgo siorts llwyd a chrys-t du gyda siaced dracsiwt batrymog wyrdd ar agor drosto. Mae silffoedd llawn llyfrau i'w gweld i'r dde o'r llun, ac mae ffenestr hir wedi'i gorchuddio â llenni gwyn i'r chwith.
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n dri mis ers i Wesley gymryd cetamin ddiwethaf ac mae'n teimlo'n obeithiol am ei ddyfodol eto

Cafodd cetamin effaith fawr ar Wesley, gan olygu ei fod yn gorfod mynd i'r toiled bob pum munud.

Ond doedd hynny ddim yn ddigon i'w atal: "Pe bai gen i boen yn fy mhledren, gallwn i gymryd mwy oherwydd byddai'n cael gwared ar y boen.

"Pe bai gen i boen yn fy nhrwyn, ac o'n i'n cael poen drwg iawn, gallwn i dal i'w gymryd ac yna byddai'n cael gwared ar hynny.

"Ond o'n i'n gwneud popeth yn waeth, ac o'n i'n gwybod fy mod i, ond doeddwn i dal ddim yn gallu gadael iddo fynd, peidio â'i gymryd."

Beth ydy'r ffigyrau?

Roedd derbyniadau brys i ysbytai Betsi Cadwaladr yn 128 yn 2022, 241 yn 2023 a 372 yn 2024, yn ôl ffigyrau'r cais rhyddid gwybodaeth.

Cyfanswm niferoedd byrddau iechyd Caerdydd a'r Fro, Cwm Taf Morgannwg, Hywel Dda a Bae Abertawe oedd 109 yn 2022, 162 yn 2023 a 228 yn 2024.

Abertawe oedd yr ail uchaf o'r rheiny oedd wedi ymateb - 63 yn 2022, 65 yn 2023 a 92 yn 2024.

Ni wnaeth byrddau Powys nac Aneurin Bevan ymateb.

Bellach yn 27 oed, mae Wesley'n mynychu canolfan adfer ar ôl iddo gyrraedd lle "isel" a cholli ei deulu a'i bartner, a dod yn ddigartref.

Nid yw'n synnu bod y ffigyrau defnydd mor uchel ar ôl profi'r "gafael tynn iawn" sydd ganddo.

"Roeddwn i'n mynd yn anymataliol, felly roedd angen i mi fynd i'r toiled lawer, fel bob pum munud, weithiau'n fwy aml eto," meddai Wesley.

"O'n i'n cael gwaed yn fy wrin... roedd yn brifo drwy'r amser."

Beth yw cetamin?

Bag o getaminFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae cetamin wedi cael ei uwchraddio o gyffur dosbarth C i B

Er ei fod yn cael ei ddefnyddio'n rheolaidd ar anifeiliaid ac yn y byd meddygol, mae cetamin hefyd yn cael ei ddefnyddio oherwydd ei effeithiau rhithweledigaethol (hallucinogenic).

Dywedodd tua 300,000 o bobl yn y DU rhwng 16 a 59 oed eu bod wedi defnyddio cetamin yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2023 - y nifer uchaf erioed.

Cafodd cetamin ei uwchraddio o gyffur dosbarth C yn 2014 oherwydd tystiolaeth gynyddol ynghylch ei beryglon corfforol a seicolegol.

Ar hyn o bryd, y gosb uchaf am gynhyrchu a chyflenwi cetamin yw hyd at 14 mlynedd yn y carchar.

Os yn cael eich dal gyda'r cyffur yn eich meddiant mae'n bosib cael eich carcharu am hyd at bum mlynedd.

Cetamin yn 'fwy derbyniol' mewn cymdeithas

Yn ôl Dr James Sutherland, arweinydd clinigol adran wroleg Ysbyty Gwynedd, mae'r cynnydd mewn defnydd o getamin yn symptom o'i bresenoldeb cynyddol o fewn cymdeithas.

"Dywedodd un claf wrtha i mai dim ond cerdded i ddiwedd ei ffordd sydd rhaid gwneud os ydy o eisiau bod dan ddylanwad y cyffur", meddai.

"Mae'n rhad hefyd, felly mae pobl yn gwario efallai dim ond £5 ac yn cael digon i bara'r noson neu barti, a dwi'n credu ei fod wedi dod yn fwy derbyniol o fewn cymdeithas i ddefnyddio cetamin."

Dywedodd Dr Sutherland mai'r prif broblem mae'n ei weld mewn cleifion yw poen yn y bledren sy'n cael ei achosi gan rwystrau, gyda rhai yn gorfod cael stent i ddraenio'r arennau.

"Mae'r symptomau'n dechrau gyda'r person yn gorfod mynd i'r toiled yn aml, yna mae 'na waed yn yr wrin ac yna mae pobl yn colli rheolaeth wrth fynd i'r toiled.

"Mae hynny'n gallu golygu gwisgo cewyn i oedolion... sy'n heriol iawn i oedolion ifanc."

Mae llawer o ddefnyddwyr y cyffur yn rheoli'r boen trwy gymryd mwy, meddai Dr Sutherland, gan arwain at orfod tynnu'r bledren yn llwyr i rai a chael stoma am weddill eu hoes.

Mae perfformiwr mewn gwisg borffor ar lwyfan yn dal meicroffon ac yn chwifio at y dorfFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Aeth The Vivienne o fod yn seren drag i berfformio yn West End ac ar amryw o raglenni teledu.

Cheryl Williams yw arweinydd strategaeth elusen Adferiad, sy'n darparu gwasanaethau i bobl sydd wedi'u heffeithio gan ddefnydd cyffuriau.

Mae'n dweud bod hyd at chwarter o'r rheiny sydd eisiau cyngor yn gwneud ar ôl defnyddio cetamin.

Mae hi wedi bod yn codi ymwybyddiaeth o effeithiau cetamin ochr yn ochr â chwaer yr artist drag o Fae Colwyn, James Lee Williams, neu'n fwy adnabyddus fel The Vivienne, a fu farw'n dilyn ataliad ar y galon a achoswyd gan y cyffur.

Maen nhw'n rhedeg grŵp cymorth cetamin yn y dref, gydag aelodau newydd yn ymuno'n wythnosol.

Mae hi'n dweud bod gan y cyffur apêl arbennig i bobl ifanc oherwydd ei fod "ar gael yn rhwydd ac yn rhad", gan ychwanegu: "Dychmygwch fod gennych chi grŵp o dri neu bedwar ffrind.

"Cwpl o bunnoedd yr un a gallwch chi fod dan ddylanwad y cyffur am 35 i 40 munud a datgysylltu o'r byd o'ch cwmpas. Yna gallwch deithio adref ac mae'n bosib ni fydda'ch rhieni'n gwybod dim."

Er nad yw wedi defnyddio cetamin ers dros dri mis, mae'n bosib bydd rhaid i Wesley gael llawdriniaeth ar ei bledren oherwydd ei ddefnydd yn y gorffennol.

Ond mae rhai o'i symptomau wedi gwella ers iddo roi'r gorau, ac mae'n teimlo'n well yn ei hun.

Mae'n chwarae pêl-droed eto, rhywbeth oedd yn teimlo'n amhosib iddo rai misoedd yn ôl.

"O'n i'n meddwl bod bywyd yn well dan ddylanwad cyffuriau, ond nawr dwi'n sicr bod popeth yn well hebddyn nhw."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.