Aduniad ymgyrchwyr a glowyr

  • Cyhoeddwyd
Pride
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ffilm Pride yn portreadu'r ymgyrchu gan aelodau Grŵp Lesbiaid a Hoywon sy'n Cefnogi'r Glowyr a Grŵp Cefnogi Glowyr Nedd, Dulais a Chwm Tawe

Mae dau grŵp ysbrydolodd y ffilm Pride, wedi dod at ei gilydd am y tro cyntaf mewn bron i 30 mlynedd.

Daeth aelodau o'r Grŵp Lesbiaid a Hoywon sy'n Cefnogi'r Glowyr, sydd wedi'i ailffurfio'n ddiweddar, yn ôl i Gwm Dulais ar gyfer aduniad gyda Grŵp Cefnogi Glowyr Nedd, Dulais a Chwm Tawe.

Daeth cannoedd o bobl i'r digwyddiad yn Neuadd Les y Glowyr yn Onllwyn, Cwm Dulais, gan godi £4,000 i Ymddiriedolaeth Mark Ashton - elusen HIV gafodd ei sefydlu er cof am Mark Ashton - yn o'r prif gymeriadau sy'n ymddangos yn y ffilm, a fu farw yn 1987.

Dywedodd brawd Mark, Lee Aston, oedd wedi teithio o Burnley yn Sir Gaerhirfryn, bod ei deulu'n teimlo balchder mawr: "Mae'r ffaith bod dau begwn cymdeithasol wedi dod at ei gilydd er mwyn cefnogi ei gilydd yn dangos dynoliaeth ar ei orau."

Yn ôl ysgrifennydd grŵp cefnogi'r glowyr, Aelod Seneddol Dwyrain Abertawe Sian James, oedd hefyd yn cael ei phortreadu yn y ffilm, roedd 'Pride' yn eu hatgoffa o gyfnod o undod, gan ysbrydoli'r ddau grŵp i ailffurfio.

"30 mlynedd yn ôl, mi wnaethon ni gynnal digwyddiad wrth i'r streic ddod i ben, ond roedd hwnnw'n achlysur trist. Felly'r syniad tu ôl i'r aduniad oedd y byddan ni'n diolch i bawb oedd wedi ein cefnogi drwy gydol y streic.

"Roedden ni eisiau atgoffa ein hunain y gallen ni wneud y math yma o beth, ein bod ni'n gallu dod â'r gymuned at ei gilydd, ac mae'r digwyddiad wedi bod yn llwyddiant."

Dywedodd ysgrifennydd y Grŵp Lesbiaid a Hoywon sy'n Cefnogi'r Glowyr, Mike Jackson, eu bod wedi eu synnu gyda'r diddordeb mae pobl wedi'i ddangos yn y stori.

"Mae nifer fawr o bobl wedi cysylltu â ni, yn enwedig pobl ifanc, gan ddweud eu bod wedi eu hysbrydoli gan y ffilm."

Disgrifiad o’r llun,

Daeth cannoedd o bobl i'r digwyddiad yn Neuadd Les y Glowyr yn Onllwyn, Cwm Dulais