Israddio'r ymgyrch chwilio am Cameron Comey
- Cyhoeddwyd
Union fis wedi i fachgen 11 oed fynd ar goll yng Nghaerfyrddin, mae Heddlu Dyfed Powys wedi cyhoeddi eu bod wedi israddio'r ymgyrch i chwilio amdano.
Fe fydd adran forol yr heddlu'n parhau i chwilio am Cameron Comey o dro i dro, a bydd chwilio o'r awyr yn parhau o bryd i'w gilydd hefyd.
Aeth Cameron ar goll ar ôl bod yn chwarae gyda'i frawd ger Afon Tywi ar 17 Chwefror.
Yn y cyfamser, bydd gwasanaeth yn cael ei gynnal yng Nghaerfyrddin ddydd Mawrth i nodi bod mis wedi mynd heibio ers ei ddiflaniad.
Roedd timau arbenigol yn cynnwys yr heddlu, y gwasanaeth tân, gwylwyr y glannau a thimau bad achub i gyd wedi ymuno yn y chwilio amdano.
Mewn datganiad, dywedodd Heddlu Dyfed Powys: "Yn anffodus mae mis wedi mynd heibio ers adroddiadau fod Cameron Comey wedi disgyn i Afon Tywi yng Nghaerfyrddin.
"Daeth archwiliadau arbennigol o'r afon i ben wedi i bob trywydd gael ei ddilyn, er bod patrolau achlysurol gan adran forwrol yr heddlu ac o'r awyr yn parhau.
"Cefnogi'r teulu drwy'r cyfnod anodd hwn yw ein blaenoriaeth, ac mae swyddog arbennigol yn cydweithio'n agos gyda'r teulu."
Gŵyl wedi'i ohirio
Mae trefnwyr Gŵyl yr Afon Caerfyrddin wedi cyhoeddi bod yr ŵyl wedi cael ei gohirio tra bo'r chwilio am y bachgen yn parhau.
Ysgrifennodd gadeirydd yr ŵyl, Steve Bright, ar wefan gymdeithasol y digwyddiad: "Y gobaith yw y gallwn ni ail-edrych ar y penderfyniad yma ar ddechrau'r haf ac asesu teimladau'r gymuned am os wnawn ni gynnal gŵyl yn ddiweddarach yn y flwyddyn."
Fe fydd gwylnos hefyd yn cael ei gynnal ar Bont y Brenin Morgan ddydd Sul i ddangos cefnogaeth i deulu Cameron.