Yr Eidal 20- 61 Cymru
- Cyhoeddwyd
Er gwaetha perfformiad gwych a chanlyniad ysgubol yn erbyn yr Eidal, nid Cymru yw pencampwyr y chwe gwlad eleni.
Ar ôl curo'r Alban o 10-40 yng Nghaeredin, Iwerddon wnaeth orffen ar y brig.
Yn Twickenham fe wnaeth Lloegr guro Ffrainc 55-35 i orffen yn ail.
Er y siom o beidio cipio'r bencampwriaeth fe wnaeth Cymru roi un o'u perfformiadau gorau erioed yn yr ail hanner i sicrhau buddugoliaeth yn Rhufain.
Roedd y canlyniad yn golygu y bod yn rhaid i Loegr guro Ffrainc o 17 pwynt, tra bod yn rhaid i'r Gwyddelod guro'r Alban o 21 pwynt
Croesodd Cymru y llinell wyth gwaith, saith yn dod yn yr ail hanner.
Roedd yna 3 i'r asgellwr Geroge North, gyda Liam Williams, Jamie Roberts, Rhys Webb, Sam Warburton a Scott Williams yn cyfranu at y cyfanswm o 61.
Ond roedd hi'n hanner cyntaf siomedig i Gymru.
Ar ôl 12 munud roedd y sgôr yn gyfartal 6-6, gyda'r ddau dîm yn euog o droseddu.
Ond hanner ffordd drwy'r hanner cyntaf daeth rhyddhad i Gymru.
Cic o ddwylo Lee Halfpenny wrth ymosod yn canfod Jamie Roberts, a groesodd am gais cynta'r gêm.
Ond daeth yr Eidal yn ôl, a'u blaenwyr yn gwneud gwaith da i alluogi Giovanbattista Venditti groesi.
Daeth newyddion gwaeth i Gymru, gyda Halfpenny yn gorfod gadael y cae ar ôl derbyn ergyd i'w ben.
Cryfder
Roedd hi'n stori gwbl wahanol wedi'r egwyl, gyda mwy o frys a chywirdeb ar chwarae Cymru.
Fe wnaeth Rhys Web fantisio ar gic rydd i fwydo Liam William i groesi.
O fewn llai na phump mund roedd Williams wedi dal cic uchel gan yr Eidalwyr ac wedi rhyddhau George North ar yr asgell, a gyda'r trosgais roedd Cymru 28-13 ar y blaen.
Ar ôl i Andrea Masi gael ei afnon o'r maes am daclo dyn heb y bel daeth casi arall i North.
Ac roedd yna fwy i ddod gan yr asgellwr, y tro hwn ar ôl i'r blaenwyr wneud gwaith da yn agosau at y llinell, daeth y bêl i North yng nghanol y cae a gurodd dau ddyn i gyrraedd y llinell.
Dangosodd Rhys Webb ei gryfder i sgorio, cais arall i Gymru.
Ac roedd mwy i ddod, o hanner ei hunain daeth y bel i Scott Williams, a fwydodd Tipuric ac yna y capten Sam Warburton.
Daeth y cais nesa o lienll Cymru, Cymru yn dwyn y bêl oddi ar yr Eidalwyr, Jonathan Davies yn torri a Scott Williams yn cwblhau y symudiad.
Daeth y gair olaf i'r Eidal gyda chais Leonardo Sarto yn golygu sgor terfynol o 20-61
Canlyniadau
Yr Eidal 20-61 Cymru
Yr Alban 10-40 Iwerddon
Lloegr 55-35 Ffrainc