Ffrind wnaeth fy annog i gael prawf canser 'wedi achub fy mywyd'

Meirion Davies
Disgrifiad o’r llun,

14 o flynyddoedd yn ôl cafodd Meirion Davies o Sir Gâr y prawf wnaeth achub ei fywyd

  • Cyhoeddwyd

Mae ffermwr 83 oed sy'n diolch i ffrind wnaeth ei annog i gael prawf am ganser y prostad bellach eisiau i bob dyn ddilyn yr un cyngor.

"Fe wnaeth y prawf bach yna achub fy mywyd i", meddai Meirion Davies o ardal Caerfyrddin, ac "oni bai am hynna bydden i ddim yma heddi".

Deuddydd ar ôl cael y prawf cafodd ei alw yn ôl, a daeth y newyddion bod ganddo ganser fel "sioc" gan nad oedd unrhyw symptomau ganddo.

Mae brecwast yn cael ei gynnal ddydd Gwener yn neuadd bentref Llanarthne, Sir Gâr, i godi arian ar gyfer elusen Prostad Cymru, a chyn mynd yno dywedodd Mr Davies bod codi ymwybyddiaeth yn hollbwysig.

Mae 2,500 o ddynion yn cael diagnosis canser y prostad, a 600 yn marw o'r canser bob blwyddyn yng Nghymru.

14 o flynyddoedd yn ôl y cafodd Mr Davies ei brofi: "Bues i'n siarad â ffrind i fi yn y mart yng Nghaerfyrddin a gofynnodd e i fi os oeddwn i wedi cael PSA test."

Gofynnodd am brawf gan ei feddyg, ac o fewn deuddydd cafodd ei alw yn ôl gan fod y cyfrif yn uchel iawn. Cafodd ei anfon i Ysbyty Glangwili er mwyn cael biopsi.

Daeth y cadarnhad fod canser ganddo fel "sioc" meddai, ond yn ddiweddarach fe gafodd ryddhad o glywed nad oedd y canser wedi lledaenu.

"Gofynnes i i'r arbenigwr yn Ysbyty Treforys, 'be chi feddwl dyle ni 'neud? chi sy'n gwybod orau'."

Y cyngor oedd i gael llawdriniaeth yn hytrach na chemotherapi a radiotherapi.

Ond, bu rhaid iddo gael y driniaeth ar noswyl Nadolig oherwydd diffyg argaeledd.

"Mae hynna'n dangos pa mor brysur yw'r tîm", meddai.

'Dim symptomau o gwbl'

Gan nad oedd symptomau gan Mr Davies, mae'n dweud ei fod yn hollbwysig i ddynion gael profion.

"Fe wnaeth y prawf bach yna achub fy mywyd i.

"Dyle pawb ei gael e. Oni bai am hynna bydden i ddim yma heddi.

"Doedd dim symptomau gyda fi o gwbl a doeddwn i ddim 'di clywed son am y prawf cyn hynny."

Aeth ymlaen i ddweud bod sawl ffrind iddo bellach wedi gneud y prawf PSA ac wedi gorfod cael triniaeth.

"Mae wedi synnu fi pa mor gyffredin yw canser y prostad, doedd gyda fi ddim syniad a bod yn onest."

Mae brecwast arbennig yn cael ei gynnal ddydd Gwener yn neuadd bentref Llanarthne, Sir Gâr, i godi arian i elusen Prostad Cymru, codi ymwybyddiaeth ac addysgu dynion am y peryglon a'r symptomau.

Mae'r galw am brawf PSA wedi cynyddu ymysg dynion dros 50 oed yng Nghymru o ganlyniad i ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru nad yw'r "prawf arbennig yma bob amser yn iawn ar gyfer dynion sy' ddim yn dangos symptomau o ganser y prostad a dylai dynion sydd yn poeni am y risg geisio cyngor gan eu meddyg teulu cyn cael prawf PSA".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig