Penfro: Ymgynghori ar gynlluniau ad-drefnu addysg

  • Cyhoeddwyd
Protest Penfro
Disgrifiad o’r llun,

Yn Ionawr, bu nifer o bobl yn protestio yn erbyn y cynlluniau ad-drefnu

Bydd cyngor sir Benfro yn dechrau ar gyfnod ymgynghori ddydd Llun ar gynlluniau dadleuol i ad-drefnu addysg uwchradd yng nghanolbarth a gogledd y sir.

Mae'r cynlluniau yn cynnwys agor ail ysgol cyfrwng Cymraeg, ond hefyd cynlluniau i gau dwy ysgol uwchradd yn Hwlffordd gan sefydlu un newydd.

Mae bwriad hefyd i symud addysg ôl-16 nifer o ysgolion i Goleg Penfro yn Hwlffordd.

Bydd y cyfnod ymgynghori yn para chwe wythnos.

Mae yna gynlluniau i gau Ysgolion Syr Thomas Picton a Tasker Milward yn Hwlffordd, a sefydlu ysgol cyfrwng Saesneg newydd ar safle presennol Ysgol Syr Thomas Picton.

Mae yna gynlluniau hefyd i ehangu darpariaeth cyfrwng Cymraeg - drwy sefydlu ysgol newydd ar safle Tasker Milward ar gyfer disgyblion 3-16 oed.

Byddai addysg cyfrwng Cymraeg ôl-16 yn cael ei ddarparu yn Ysgol y Preseli.

Roedd swyddogion addysg hefyd wedi argymell cau Ysgolion Dewi Sant yn Nhyddewi, ond cafodd y cynnig hwnnw ei wrthod gan gynghorwyr.

Ddiwedd Ionawr daeth dros 500 o bobl i brotestio y tu allan i bencadlys y Cyngor yn erbyn y cynlluniau i ad-drefnu darpariaeth chweched dosbarth.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Ysgol Dewi Sant yn parhau i ddarparu addysg ar gyfer disgyblion rhwng 11-16 oed