Lluniau: Cofio Lloyd GeorgeCyhoeddwyd26 Mawrth 2015Disgrifiad o’r llun, Lloyd George, yr unig Gymro Cymraeg i lwyddo i fod yn brif-weinidog PrydainDisgrifiad o’r llun, Aeth teulu David Lloyd George i fyw gyda’i ewythr yn Llanystumdwy ar ôl i'w dad farw. Roedd Richard Lloyd yn grudd a phregethwr ac fe gafodd ddylanwad mawr ar Lloyd George. Mae’r bwthyn nawr yn rhan o’r amgueddfa yn LlanystumdwyDisgrifiad o’r llun, Astudiodd David Lloyd George i fod yn gyfreithiwr yng nghegin bwthyn ei ewythr. Gweithiodd ym Mhorthmadog am gyfnod cyn cael ei ethol i Dŷ'r Cyffredin yn 1890Disgrifiad o’r llun, Pan oedd yn Ganghellor, cyflwynodd Lloyd George ei gopi personol o 'Gyllideb y Bobl' i’w ewythr. Roedd yn crybwyll yswiriant cymdeithasol am y tro cyntafDisgrifiad o’r llun, Y sêl a ddefnyddiodd Lloyd George ar gytundeb Versailles ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. Nid oedd Lloyd George yn cytuno â’r amodau llym ar gyfer yr Almaen, gan ofni rhagor o drafferthion yn y dyfodolDisgrifiad o’r llun, Ar ôl y Rhyfel Mawr: David Lloyd George, Georges Clemenceau (Prif Weinidog Ffrainc), ac arlywydd America, Woodrow Wilson ar eu ffordd i gynhadledd heddwch Versailles yn 1919Disgrifiad o’r llun, Wrth i’r Brenin a Lloyd George yrru trwy Lundain ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, cafodd torch llawryfen ei lluchio i’r car. Dywedodd y Brenin wrth y Prif Weinidog am ei chadw i gofio'r dathliadau.Disgrifiad o’r llun, Lloyd George gyda Winston Churchill yn 1915Disgrifiad o’r llun, Thomas Thomas o Gorwen oedd y cyntaf yng Nghymru i dderbyn pensiwn gan y llywodraeth; pum swllt, neu ‘Goron Lloyd George’.Disgrifiad o’r llun, David Lloyd George, gyda'i wraig gyntaf Margaret, a'u plant Megan a MairDisgrifiad o’r llun, Dychwelodd i Lanystumdwy yn ei henaint gyda’i ail wraig, Frances. Mae ei fedd ar lan yr afon Dwyfor, lle’r oedd yn hoff o eistedd