Nabod y Dr Kate

  • Cyhoeddwyd
Dr Kate Roberts

Mae hi'n 30 mlynedd ers marwolaeth un o'n llenorion amlycaf, Dr Kate Roberts. Ond sut berson oedd awdur Te yn y Grug, Traed Mewn Cyffion a llu o gyfrolau eraill mewn gwirionedd? Mae'r bardd Llŷr Gwyn Lewis wedi bod yn holi rhai oedd yn ei hadnabod yn dda:

Mwy na 'Brenhines ein llên'

Y delweddau arhosol sydd gennym o fawrion ein cenedl fel arfer yw'r rhai olaf ohonynt. Dyma'r delweddau, yn amlach na pheidio, a gaiff eu serio yn y cof; y mawrion fel hen bobl.

Mae hynny er ei bod yn ddigon posibl eu bod wedi gwneud eu cyfraniad nodedig flynyddoedd, os nad degawdau, ynghynt, yn eu hieuenctid neu'n ganol oed.

Yr un peth sy'n wir, efallai, am rywun fel Kate Roberts, y llenor enwog a fu farw ddeng mlynedd ar hugain yn ôl. Rydym ni'n ei chofio'n aml, yn rhy aml efallai, fel 'brenhines ein llên'.

Y ddelwedd ohoni yn ei henaint a'i gwallt gwyn a'i pherlau sy'n dod gyntaf i'r meddwl yn gwmni i'r teitl hwnnw, neu pan fydd rhywun yn cyfeirio at 'Doctor Cêt'.

Ond darlun o'r Katherine Roberts dipyn ieuengach sydd ar flaen cofiant Alan Llwyd iddi. Ac ar glawr ymdriniaeth fer, feistrolgar Katie Gramich o fywyd a gwaith Kate Roberts yng nghyfres 'Writers of Wales', darlun o'r fyfyrwraig ifanc, dlos a gawn.

Disgrifiad o’r llun,

Kate Roberts, yr awdures ifanc

Tybed a yw un darlun penodol sydd gennym o rywun yn peri inni anghofio elfennau eraill o'u cymeriad? Y Kate Roberts gecrus, barod ei thafod, yn cymylu'n dirnadaeth o'i charedigrwydd a'i chynhesrwydd.

Y straeon llawn tlodi a bywyd caled ardal y chwareli, yn ein rhwystro rhag synhwyro'r hiwmor yn ei bywyd ac, o bosib, yn ei gwaith.

'Masgiau'

Dyna pam roeddwn i'n awyddus i sgwrsio, mewn rhifyn arbennig o raglen Stiwdio, â rhai oedd wedi adnabod Kate Roberts dros ddeng mlynedd ar hugain yn ôl.

Disgrifiad o’r llun,

Y Parch. Cynwil Williams, cyn-weinidog Dr Kate Roberts, yn rhannu ei atgofion gyda Llŷr Gwyn Lewis

Wrth sgwrsio â rhai fel y Parch. Cynwil Williams, a fu'n weinidog arni am gyfnod yn y Capel Mawr yn Ninbych, ac â Dr Gwynn Matthews, a safodd yn ymgeisydd seneddol dros Blaid Cymru yn ystod ei chyfnod hi'n byw yn y dref, daeth nifer o elfennau eraill o gymeriad Kate Roberts i'r amlwg, a nifer o'r 'masgiau' a oedd ganddi ar gyfer gwahanol sefyllfaoedd a phobl.

O groesi trothwy'r Cilgwyn, cartref Kate yn Ninbych, cafodd y ddau groeso gan Kate go wahanol i'r Kate gyhoeddus. Un arall a welodd yr ochr honno iddi yw ei nith, Nest Jones, sydd ag atgofion plentyndod go felys ohoni.

Roedd amryw o'r rhai y bûm innau'n sgwrsio â nhw yn cofio'r un manylion bychain.

Ffraethineb

Disgrifiad o’r llun,

Llŷr yn clywed atgofion ffraeth John Ogwen a Norman Williams yng Nghae'r Gors, cartref Kate Roberts

Daeth ochr ysgafn, ffraeth i Kate Roberts i'r amlwg wrth sgwrsio hefyd â rhai fel yr actor John Ogwen a Norman Williams.

Yn ôl eu straeon hwythau, roedd yr un miniogrwydd nodweddiadol i'w ganfod yn ei hiwmor hi hefyd, a'r gallu i dorri crib neu i ennyn chwerthin iach mewn ychydig eiriau cynnil.

Ac os oes gair penodol yn aros yn y cof o'r sgyrsiau a gefais wrth greu'r rhaglen, y gair 'triw', gan yr Athro Gwyn Thomas, oedd hwnnw.

Yng Nghae'r Gors, hen gartref Kate Roberts yn Rhosgadfan, roedd gan John Ogwen hanesyn amdano'n dod o hyd i lun ohoni'n ifanc. Mentrodd yntau ddweud wrthi ei bod hi'n dipyn o bishyn yn ei dydd, ac o glywed hynny fe oleuodd ei hwyneb hithau.

Gobeithio y bydd y rhaglen radio hon hefyd yn fodd o oleuo rhai o'r amryw weddau ar fywyd a gwaith Kate Roberts, ac o'n hatgoffa nad 'brenhines ddioddefus' bob amser mo'r frenhines hon.

Disgrifiad o’r llun,

Llŷr Gwyn Lewis wedi ei gyfareddu gan y straeon am Dr Kate

Stiwdio: Cofio Kate, 12:03 Dydd Mawrth 31 Mawrth, BBC Radio Cymru