Cynghorau iechyd: Diffyg ymwybyddiaeth

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty

Bydd cynghorau iechyd cymunedol Cymru'n cael eu hail-lansio yn eu cynhadledd flynyddol, wedi iddyn nhw gyfaddef nad yw llawer o gleifion yn ymwybodol eu bod yn bodoli.

Mae'r cynghorau eisiau codi eu proffil fel corff all godi pryderon ynglŷn â'r Gwasanaeth Iechyd pan mae pethau'n mynd o le.

Mae Peter Meredith-Smith, cyfarwyddwr bwrdd y cynghorau iechyd cymunedol, yn cyfaddef bod ymwybyddiaeth y cyhoedd o'u gwaith yn "wael" ac yn "wendid gwirioneddol".

Dywedodd wrth BBC Cymru: "Mae hi'n siom ein bod ni wedi cael ein disgrifio 'fel cyfrinach orau Cymru'."

Mae'r gynhadledd yng Nghaerdydd yn dathlu pen-blwydd y cynghorau'n 40 oed, ond bydd hefyd yn nodi'r her a sut mae angen iddyn nhw newid ar gyfer y dyfodol.

Dywedodd Mr Meredith-Smith: "Un o'n prif flaenoriaethau yw cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r cynghorau iechyd cymunedol."

'Gwendid gwirioneddol'

Mae'r cynghorau iechyd cymunedol yn credu nad oes digon o gleifion yn gwybod eu bod yn bodoli, a bod angen ei gwneud hi'n haws cysylltu â nhw, a sicrhau eu bod yn cydweithio'n fwy effeithiol.

Dywedodd Mr Meredith-Smith: "Os yw'r cynghorau iechyd cymunedol i gyflawni eu rôl i roi llais i gleifion Cymru, mae'n rhaid i gleifion a'r cyhoedd fod yn ymwybodol ein bod yn bodoli, beth rydym ni'n wneud a sut i gysylltu â ni.

"Mae hyn yn wir, yn enwedig, ar gyfer ein gwasanaeth eiriolaeth.

"Mae adolygiadau diweddar o'r gwasanaeth iechyd yn dangos bod ymwybyddiaeth gyffredinol o'r cynghorau iechyd cymunedol yn wael. Mae hynny'n wendid gwirioneddol rydym ni am fynd i'r afael ag o, a bydd yn ffactor flaenllaw yn ein strategaeth tair blynedd."

Cydweithio

Mae cynghorau iechyd cymunedol yn gobeithio gweithio'n agosach gydag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn y dyfodol.

Fe fydd y cynghorau'n lansio cyswllt ffurfiol gyda'r arolygiaeth, sy'n gyfrifol am archwilio a rheoleiddio gofal iechyd yng Nghymru.

Mae'r cynghorau eisoes wedi cynnal archwiliadau o 38 o feddygfeydd ar y cyd llynedd, yn ystod prosiect peilot.

Cafwyd gwared ar gynghorau iechyd cymunedol yn Lloegr, ond ni ddigwyddodd hynny yng Nghymru.

Mae disgwyl i ddeddfwriaeth newydd ddod i rym fis nesaf, gyda'r bwriad o sicrhau agwedd fwy cyson tuag at sut mae'r rhwydwaith o wyth cyngor iechyd cymunedol yn gweithio ar draws Cymru.

Bydd bwrdd y cynghorau iechyd cymunedol yn wynebu'r her o sicrhau canolbwynt mwy pendant i'r mudiad.