Y Cofnod: 'Rhyfeddod nad yw'r cyfieithu wedi ei gwblhau'

  • Cyhoeddwyd
Siambr y Senedd
Disgrifiad o’r llun,

Mae cofnod dwyieithog o drafodaethau'r Siambr, ond nid yw trafodaethau pwyllgorau yn cael eu cyfieithu i'r Gymraeg

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi dweud ei fod yn "rhyfeddod" nad yw'r gwaith o gyfieithu Cofnodion y Cynulliad na chafodd eu cyfieithu rhwng 2010 hyd 2012 wedi ei gwblhau.

O'r 80 dogfen dan sylw yn y cyfnod rhwng Gorffennaf 2010 hyd Ionawr 2012, mae 40 wedi eu cyhoeddi, 18 wedi eu cyfieithu ac yn cael eu gwirio ac mae'r gwaith ar y gweddill "ar y gweill".

Dywedodd Rhodri Glyn Thomas AC, Comisiynydd y Cynulliad â chyfrifoldeb am swyddogaethau a pholisi Ieithoedd Swyddogol, mai'r nod yw cwblhau'r gwaith o gyfieithu'r Cofnodion erbyn diwedd y pedwerydd Cynulliad yn 2016.

Ond yn ôl Manon Elin, is-gadeirydd grŵp hawliau Cymdeithas yr Iaith: "Mae record y Cynulliad o ran cadw at yr addewidion yn eu cynllun iaith yn dameidiog a dweud y lleiaf.

"Sawl blwyddyn ers yr addewid, mae'n rhyfeddod nad yw'r gwaith wedi ei gwblhau. Mae'n werth cofio bod yr addewid wedi ei wneud yn dilyn dyfarniad bod y Cynulliad wedi torri eu hen gynllun iaith.

"Erbyn hyn maen nhw'n torri eu cynllun newydd drwy beidio â gwireddu'r addewid a wnaed ddwy flynedd yn ôl i gyhoeddi'r Cofnod yn Gymraeg ar yr un pryd â'r Saesneg. Am sefydliad a ddylai fod ar flaen y gad o ran ymdrin â'r iaith, mae'n siomedig iawn."

Ychwanegodd Rhodri Glyn Thomas: "Mae hyn yn un elfen o nifer fawr o bethau mae'r Comisiwn yn ei wneud i hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg."

1999

Ers sefydlu'r cynulliad yn 1999 roedd trawsgrifiadau o gyfarfodydd llawn wedi bod yn gwbl ddwyieithog tan i bwyllgor dan gadeiryddiaeth y llywydd ar y pryd, yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas, benderfynu rhoi'r gorau i hynny.

Am gyfnod rhwng Gorffennaf 2010 hyd Ionawr 2012 roedd cyfraniadau aelodau yn y Siambr yn cael eu cyfieithu o Gymraeg i'r Saesneg ond ni chafodd cyfraniadau Saesneg eu cyfieithu.

Dywedodd Bwrdd yr Iaith bryd hynny bod Comisiwn y Cynulliad wedi torri ei gynllun iaith, ac roedd y mater wedi rhannu aelodau a phleidiau.

Asgwrn y gynnen oedd cost cyfieithu pob gair o'r trafodaethau.

Wedi gwelliannau i'r Mesur Ieithoedd Swyddogol, dychwelwyd i'r drefn o gofnodi trafodaethau'r Cynulliad yn y cyfarfodydd llawn yn y ddwy iaith yn 2012, a gwnaed ymrwymiad i fynd yn ôl trwy'r archif i gyfieithu'r Cofnodion nad oedd yn ddwyieithog.

Nid yw trafodaethau pwyllgorau yn cael eu cyfieithu i'r Gymraeg.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol