Hwlffordd: Dim archfarchnad a dim swyddi
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni Sainsbury's wedi penderfynu rhoi'r gorau i gynlluniau i adeiladu archfarchnad yn Hwlffordd, a fyddai wedi creu tua 500 o swyddi.
Mi wnaeth y cwmni gyhoeddi ddydd Gwener, yn dilyn adolygiad, nad yw'r archfarchnad yn Slade Lane yn y dref "bellach yn bosib".
Dywedodd arweinydd Cyngor Sir Benfro, Jamie Adams, ei fod yn cydnabod y "pwysau economaidd" oedd yn effeithio ar y cwmni.
Erbyn hyn mae Sainsbury's wedi gwerthu'r tir i'r cwmni datblygu Conygar, fydd yn adeiladu 700 o dai ar y safle.
Dywedodd llefarydd ar ran Sainsbury's: "Ers i'r cynlluniau gael eu cyhoeddi gyntaf, mae arferion siopa wedi newid yn arw, gyda chwsmeriaid yn canolbwyntio fwy ar gyfleustra a siopa bwyd arlein."
Dywedodd llefarydd ar ran Conygar y byddai'r tir yn cael ei gynnwys yn eu cynlluniau ar gyfer adeiladu 729 o gartrefi ar y safle 86 erw.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Medi 2013