Pryderon dros gau banciau gwledig
- Cyhoeddwyd
Mae pryderon wedi eu codi am ddiffyg banciau mewn ardaloedd gwledig wedi i HSBC gyhoeddi y byddan nhw'n cau un o'u canghennau ym Mhowys .
Dywedodd y banc y byddai'r gangen ym Machynlleth yn cau yn yr haf, wedi i nifer y cwsmeriaid ddisgyn yn sylweddol.
O'r 28 o fanciau sydd wedi cau yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mewn 10 achos dyna oedd y banc olaf yn y dref.
Mae trigolion a busnesau wedi dweud wrth BBC Cymru bod colli banc lleol yn "anghyfleustra anferthol".
Cynnydd mewn bancio arlein
Mae Trefaldwyn, ym Mhowys, a Thregaron, yng Ngheredigion, ymysg y trefi sydd wedi colli eu banciau.
Hyd yn hyn eleni, mae cyhoeddiadau wedi eu gwneud y bydd wyth o ganghennau ar draws Cymru yn cau eu drysau am y tro olaf.
Mae'r banciau mawrion yn dweud bod y penderfyniad i gau canghennau wedi'i achosi gan gynnydd mawr mewn bancio ar-lein. Erbyn hyn mae pobl yn defnyddio cyfrifon ar y we saith miliwn o weithiau'r dydd.
Yr wythnos ddiwethaf, mi wnaeth banciau Prydain ddod i gytundeb gyda Llywodraeth y DU ar brotocol ar gyfer cau canghennau er mwyn lleihau'r niwed sy'n cael ei achosi i ardaloedd gwledig.
Mae'r cynllun yn cynnwys cydweithio gyda Swyddfa'r Post er mwyn galluogi cwsmeriaid i dderbyn mwy o wasanaethau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Ionawr 2015
- Cyhoeddwyd27 Awst 2014
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2014