Gwely Harri VII wedi'i adael mewn maes parcio?
- Cyhoeddwyd
Roedd gwely 500 oed gafodd ei adael mewn maes parcio gwesty yn arfer perthyn i Frenin Harri VII o Gymru, mae wedi cael ei honni gan hanesydd.
Cafodd y gwely ei adael tu allan i westy yng Nghaer gan adeiladwyr cyn iddo gael ei gasglu gan arwerthwyr.
Prynodd Ian Coulson y gwely am £2,200 ar ôl ei weld ar lein.
Mae yna awgrym fod y gwely nawr yn werth hyd at £20m.
Cysylltodd Mr Coulson â'r hanesydd Dr Jonathan Foyle a ddefnyddiodd brofion DNA i gadarnhau mai'r brenin o Benfro oedd yn arfer bod yn berchen ar y gwely.
Disgrifiodd Dr Foyle y darganfyddiad fel "trysor cenedlaethol".
Mae'r gwely'n cael ei arddangos yng Nghastell Hever yng Nghaint ar hyn o bryd.