Uned pelydr proton cyntaf i Gymru

  • Cyhoeddwyd
canser
Disgrifiad o’r llun,

Mae therapi pelydr proton yn gallu targedu canserau yn uniongyrchol

Bydd canolfan therapi arbenigol pelydr proton cyntaf y DU yn agor yng Nghaerdydd ar gyfer cleifion canser.

Bydd y ganolfan yn darparu triniaeth ar gyfer y GIG a chleifion preifat.

Mae'r driniaeth yn fath arbennig o radiotherapi sy'n gallu trin canserau sy'n anodd eu cyrraedd fel arall.

Daw'r cyhoeddiad gan gwmni Proton Partners o Gaerdydd, wedi i'r ferch dwy oed o Gastell-nedd orfod teithio i Oklahoma yn yr UDA ym mis Chwefror i dderbyn y driniaeth hon.

Roedd yn rhaid i Freya Bevan a'i theulu wneud y daith dros yr Iwerydd, gan nad oedd triniaeth ar gyfer y math yma o diwmor, ar gael yn y DU.

Bydd canolfannau yn agor hefyd yn Llundain a Northumberland erbyn 2017.