Methiannau gofal claf wedi strôc
- Cyhoeddwyd
Mae teulu dynes 86 oed a gafodd strôc wrth ddisgwyl i gael ei rhyddhau o ysbyty yn dweud fod adroddiad newydd sy'n amlinellu methiannau yn ei gofal yn cadarnhau eu pryderon ar y pryd.
Ni chafodd Margaret Harries, o'r Porth, Rhondda Cynon Taf, ei harchwilio gan feddyg am chwe awr wedi'r strôc gyntaf, ac fe ddioddefodd ail strôc yn ddiweddarach yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Llantrisant yn 2012.
Fe geisiodd ei theulu gael atebion gan Fwrdd Iechyd Cwm Taf sawl gwaith wedi'r digwyddiad.
Ombwdsmon
Fe benderfynodd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Nick Bennett, gadarnhau cwyn y teulu yn ei adroddiad gafodd ei gyhoeddi ddydd Mercher.
Dywedodd Mr Bennett fod y gofal a gafodd Mrs Harries, sydd yn cael ei disgrifio yn yr adroddiad fe 'Mrs M', yn 'annigonol' a bod y bwrdd iechyd wedi 'methu a'i hamddiffyn' rhag strôc y byddai wedi gallu ei hosgoi.
"Yna methodd y bwrdd iechyd ag asesu a thrin ei symptomau'n brydlon ac yn effeithiol", meddai.
"Bu oedi hefyd cyn iddi gael ei gweld gan glinigydd a oedd wedi'i hyfforddi'n briodol a chyn i Mrs M gael ei throsglwyddo i Uned Strôc."
Dywed adroddiad yr Ombwdsmon fod Mrs Harries wedi ei chludo i'r ysbyty ar 24 Mawrth 2012 o achos cyfogi a dolur rhydd.
Roedd hi'n aros i gael ei rhyddhau o'r ysbyty ar 4 Ebrill pan ddioddefodd ei strôc gyntaf, ac er i'w theulu ofyn am gymorth, ni chafodd ei harchwilio gan feddyg am dros chwe awr.
Yna, dros nos, tra roedd hi'n cysgu, fe gafodd strôc arall llawer mwy difrifol.
Oedi cyn ymateb
Dywedodd ei mab Ceri Harries fod y bwrdd iechyd wedi oedi ar sawl achlysur cyn ymateb i gwynion y teulu ac nid oedd yn fodlon gyda'r ffordd yr oedd y bwrdd wedi delio gyda'r gŵyn a'u hymateb.
"Rwy'n dal yn teimlo'n flin amdano" meddai. "Mae darllen yr adroddiad nawr yn fy ypsetio.
"Rydym i gyd yn teimlo'n ypset am yr hyn sydd wedi digwydd am fod fy mam yn ddynes hyfryd ac mae hi wedi diflannu dros gyfnod o amser"
Dywed yr adroddiad fod y bwrdd iechyd wedi methu:
dilyn canllawiau perthnasol NICE ar driniaeth strôc, ac nid oedd canllawiau mewn grym;
darparu (na chofnodi) y cymorth nyrsio pwrpasol;
cadw cofnodion perthnasol;
cydymffurfio gyda chyfarwyddyd trefn cwynion
Mae'r bwrdd iechyd wedi derbyn yr adroddiad ac wedi cytuno i ysgrifennu llythyr yn ymddiheuro yn ddiamod am y methiannau sydd yn yr adroddiad, a thalu £5,000.
Cafodd Mrs Harries ei throsglwyddo i ofal ysbyty arall wythnos yn dilyn ei strôc, gan fynd i gartref nyrsio ym mis Chwefror 2013. Bu farw ym mis Tachwedd 2014.