Fforest law drofannol ym Mae Colwyn
- Cyhoeddwyd

Yn y ganolfan bydd stafelloedd arddangos
Bydd ardal fforest law drofannol yn cael ei chodi yn Sŵ Mynydd Bae Colwyn wedi i gynghorwyr gymeradwyo cynlluniau gwerth £6m.
Roedd cynghorwyr Cyngor Sir Conwy yn trafod y ganolfan addysg brynhawn Mercher.
Ynddi bydd dwy ddarlithfa, dwy stafell ddosbarth, a stafelloedd arddangos yn cynnwys ymlusgiaid, planhigion a phryfed.
Dywedodd llefarydd ar ran y sŵ y byddai cais am arian Ewrop i gefnogi'r prosiect.