Ceffylau Cymreig y Grand National

  • Cyhoeddwyd
CeffylauFfynhonnell y llun, Getty Images

Roedd 39 o geffylau yn cymryd rhan yn ras y Grand National yn Aintree brynhawn dydd Sadwrn, ac roedd gan bump o'r ceffylau gysylltiadau Cymreig eleni.

Mae Al Co yn cael ei hyfforddi gan Peter Bowen, sydd yn hyfforddi yn Hwlffordd, ac mae'r ceffyl wedi ennill ras y Scottish National yn barod.

Y Cymro Sam Twiston-Davies oedd yn marchogaeth Rocky Creek eleni, ac fe ddaeth Twiston-Davies yn bumed yn ras y Grand National yn 2010 ar gefn Hello Bud.

Roedd Rocky Creek ei hun yn bumed yn y ras y llynedd ac mae'r ceffyl wedi ei hyfforddi gan yr hyfforddwr llwyddianus Paul Nicholls.

Sean Bowen, 17 oed o Sir Benfro, a mab yr hyfforddwr Peter Bowen oedd yn marchogaeth Mon Parrain yn Aintree. Sean ydi'r joci ieuengaf yn y ras eleni. 1938 oedd y tro diwethaf i joci 17 oed ennill y ras.

Michael Scudamore o Lyn Ebwy ydi hyfforddwr Monbeg Dude, ddaeth yn seithfed yn y ras y llynedd. Enillodd y ceffyl ras y Welsh National ym mis Ionawr 2013, gan ddod a llwyddiant i'w berchnogion, y chwaraewyr rygbi Mike Tindall, James Simpson-Daniel a Nicky Robinson.

Roedd Monbeg Dude yn cael ei farchogaeth gan Liam Treadwell, oedd yn fuddugol yn 2009 ar geffyl 100-1, Mon Mome.

O Sir Benfro mae hyfforddwraig Bob Ford yn dod, ac fe ddaeth Teaforthree, ceffyl arall gafodd ei hyfforddi gan Rebecca Curtis, yn drydydd yn y ras ddwy flynedd yn ôl.

Y joci llwyddianus o Iwerddon Paul Townend oedd yn marchogaeth Bob Ford ddydd Sadwrn.