Castell Aberteifi yn ailagor yn dilyn gwaith adnewyddu
- Cyhoeddwyd
Mae Castell Aberteifi yn ailagor yn dilyn pedair blynedd o waith adnewyddu gwerth £12 miliwn.
Fe ymgyrchodd cymuned Aberteifi am 15 mlynedd i achub y safle sydd wedi ei adfer yn atyniad treftadaeth, llety moethus lleoliad ar gyfer digwyddiadau
Roedd y gwaith adfer yn cynnwys atgyweirio'r to, tirlunio ac ailadeiladu waliau'r castell.
Bydd y safle yn agor i gwsmeriaid ddydd Mercher.
Fe sicrhaodd Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau Cadwgan, sy'n cynnwys 250 o bobl leol, fuddsoddiad ar gyfer adfer, gan gynnwys mwy na £6 miliwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL) a £4.3m gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF).
Cymerodd cannoedd o wirfoddolwyr lleol ran mewn digwyddiadau i godi arian, gan godi dros £200,000 i achub y safle 900 oed.
Dywedodd llefarydd ar ran y Castell, Sue Lewis: "Mae sicrhau defnydd llawn o adnoddau'r castell yn gwbl hanfodol wrth greu incwm i gynnal a chadw'r safle."Ein nod yw denu mwy na 30,000 o ymwelwyr i'r castell yn ei flwyddyn gyntaf wedi ail-agor.