Lluniau: Llangrannog i ni!
- Cyhoeddwyd
Miliwn a hanner - dyna i chi faint o blant a phobl ifanc Cymru sydd wedi aros yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog ers iddo agor yn 1932.
Bydd arddangosfa arbennig o luniau, 'Jocs, Jeriws a Joio', i'w gweld yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth rhwng 18 Ebrill - 29 Awst.
Mae Urdd Gobaith Cymru, yn garedig iawn, wedi rhannu rhai o'r atgofion gyda Cymru Fyw. 'Sgwn i os ydych chi ymhlith y gwersyllwyr yn y lluniau yma neu'n 'nabod rhai o'r wynebau?
Cysylltwch gyda ni ar e-bost cymrufyw@bbc.co.uk neu ar ein cyfrif Twitter @BBCCymruFyw

Gwersyllwyr cynnar iawn o'r Tymbl a Glan Conwy nôl yn 1932

Plas Penhelig, un o gabanau Llangrannog. Ond tybed pwy yw'r ymwelwyr?
Cysylltodd Iwan Llwyd gyda Cymru Fyw i gynnig enw i ni:
"Y ferch yn y flows dywyll ar y dde ydy Elizabeth Hughes (Beti) o Bontrhydyfen (1916-2003), un o swyddogion cyntaf yr Urdd. Aeth ymlaen i fod yn athrawes Hanes yn Nhy Ddewi, Cwm Gwendraeth a Chastell-Nedd."

Pwy ydi'r criw hwyliog yma yng ngwersyll Llangrannog?

Wyddoch chi pwy yw'r merched sy'n disgwyl i'w dillad sychu?

Gobeithio nad oes 'na fechgyn yn cuddio yn y cabanau 'na ferched!
Mae Ann Wiliam o Groesoswallt wedi cysylltu efo Cymru Fyw gyda'i hatgofion am y llun yma:
"Fi sy'n edrych allan drwy'r ffenestr chwith yn y caban cyntaf. Os cofiaf yn iawn fe dynnwyd y llun gan Geoff Charles yn haf 1954.
"Mae gen i lun arall yn fy meddiant - criw ohonom o Ysgol Brynrefail ac Ysgol Ramadeg Caernarfon y tu allan i gaban ond roedd fy ymgais i anfon y llun gyda neges flaenorol yn aflwyddiannus.
"Mae fy wyresau yn dweud wrthyf fod un o'r lluniau wedi'i chwyddo yn fawr ar y wal yn y ffreutur yn Llangrannog!"

Diolch i Ann am anfon y llun uchod at Cymru Fyw. cafodd y llun ei dynnu yr un diwrnod a'r llun dynnodd Geoff Charles o'r mercehd yn y cabanau. Meddai Ann:
"Meira Owen (Meira Hughes Llanelwy erbyn hyn) yw'r ail o'r chwith yn y blaen a Marian Jones (Corwen erbyn hyn) sydd ar y dde yn y blaen. Dim ond fy mhen i sydd yn y golwg. Roedd rhai o'r gweddill o Gaernarfon."

Gobeithio nad oedd gwynt y môr yn brathu gormod ar y diwrnod yma yn Llangrannog!

"Hei, ble mae'n picnic ni?"

'Nabod rhai o'r rhain?

Mae'r môr 'na yn edrych yn oer, bois bach!

Pwy ydi'r 'gangster' yma a'i edmygwyr?

"Fel hyn mae gwneud." Pwy ydi'r hyfforddwr a'i ddarpar dîm?

Hoe rhwng ymarferion o bosib? Pwy ydi'r criw dramatig yma?

Pwy ydi'r bum brenhines a'r gŵr barfog yn y tei bô?

Ar y ffordd i'r traeth? Pwy ydyn nhw?

Fuoch chi ymhlith y rhai fu'n cysgu yn y pebyll gwynion?

Sylfaenydd Urdd Gobaith Cymru, Syr Ifan ab Owen Edwards a'i wraig y Fonesig Ellen Edwards yn Eisteddfod yr Urdd Llanrwst yn 1968