Cestyll Cymru

  • Cyhoeddwyd

Mae Castell Aberteifi wedi ail-agor yn swyddogol yr wythnos hon, sgwn i os ydi eich hoff gastell chi ymhlith ein detholiad o gestyll Cymru?

Ffynhonnell y llun, Geoff Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Castell Aberystwyth: Cafodd ei aeiladu gan y brenin Edward I fel rhan o'i ymgyrch yn erbyn y Cymry

Ffynhonnell y llun, Bev Carruthers
Disgrifiad o’r llun,

Castell Bodelwyddan: Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf cafodd tŷ y castell ei ddefnyddio fel ysbyty i filwyr oedd wedi eu hanafu ar faes y gad

Ffynhonnell y llun, Phil Fitzsimmons
Disgrifiad o’r llun,

Castell Dinefwr: Cynhaliodd yr Arglwydd Rhys lys yn Nyffryn Tywi i ddylanwadu ar benderfyniadau yng Nghymru

Ffynhonnell y llun, David Roberts Photography
Disgrifiad o’r llun,

Castell Biwmaris: Cafodd ei adeiladu ar lan Afon Menai gan Edward I, brenin Lloegr, rhwng 1295 a 1298, ar ôl gwthryfel Madog ap Llywelyn

Ffynhonnell y llun, Chris Tetley
Disgrifiad o’r llun,

Castell Powis yw un o'r ychydig leoedd ym Mhrydain lle gall gardd Baróc gael ei werthfawrogi'n llawn

Ffynhonnell y llun, Bev carruthers
Disgrifiad o’r llun,

Castell Rhuddlan: Er mwyn sicrhau cyflenwadau o'r môr fe newidiodd Edward I gwrs naturiol afon Clwyd

Ffynhonnell y llun, Bev carruthers
Disgrifiad o’r llun,

Mae Castell y Fflint yn nodweddiadol am fod ganddo dŵr anferth ar wahân i weddill y castell

Ffynhonnell y llun, Bev carruthers
Disgrifiad o’r llun,

Mae Castell y Waun ger Wrecsam yn dyddio i 1295. Cafodd ei adeiladu gan Roger Mortimer de Chirk er mwyn gwarchod Dyffryn Ceiriog

Ffynhonnell y llun, Paula J James
Disgrifiad o’r llun,

Castell Coch, Tongwynlais ar gyrion Caerdydd. Dechreuodd y pensaer William Burges ail-adeiladu'r castell yn 1875 ar gais 3ydd Ardalydd Bute, John Crichton-Stuart

Ffynhonnell y llun, Phil Fitzsimmons
Disgrifiad o’r llun,

Yn ymyl Castell Cydweli yn 1136 cafodd Brwydr Maes Gwenllian ei hymladd. Cafodd y dywysoges, gwraig Gruffudd ap Rhys o Caeo, ei lladd yn ystod y gwrthdaro gyda lluoedd Maurice de Londres

Ffynhonnell y llun, Alun Williams
Disgrifiad o’r llun,

Gyda thros hanner milltir o furiau tref, mae Castell Dinbych yn gaer glasurol o oes Edward.

Ffynhonnell y llun, Barbara Fuller
Disgrifiad o’r llun,

Castell y Bere: Castell Cymreig Llywelyn Fawr ar odre Cadair Idris ger Llanfihangel-y-pennant, Gwynedd