Pwyslais ar yr acen

  • Cyhoeddwyd

A yw'r Cymry yn teimlo y dylen nhw feddalu eu hacenion er mwyn cael eu cymryd o ddifri? Frank Lincoln, y cyn-actor a chyhoeddwr â'r BBC sy'n trafod ei brofiad gydag acenion rhanbarthol:

"Posh Welsh"

Dwi'n cofio gŵr o'r enw Michael Chaplain, Pennaeth Rhaglenni Saesneg BBC Cymru yn y nawdege, yn dweud wrtha i unwaith, "You're posh Welsh Frank" - nid beirniadaeth ond gosodiad. Roedd e yn llygad ei le hefyd.

Nid sôn am fy safle cymdeithasol i oedd e, ond am yr acen oedd gen i wrth ddarlledu, yn y Gymraeg a'r Saesneg - acen a oedd yn sicr wedi newid ers fy machgendod yn ardal Llanelli.

Ffynhonnell y llun, Frank Lincoln
Disgrifiad o’r llun,

Frank Lincoln

Fel actor yn y chwedegau a'r saithdegau, fe fu'n rhaid i mi geisio meistroli acen gweddol niwtral wrth siarad Saesneg, a dysgu acenion ardaloedd a gwledydd eraill hefyd.

'Dyw hynny ddim yn hawdd i Gymro Cymraeg ei iaith, oherwydd mae'n acen anodd ei chuddio ac yn anodd trawsosod un arall drosti, efallai oherwydd mai ail iaith yw'r Saesneg i ni beth bynnag.

Mae actorion Cymreig ar y cyfan ond yn chwarae cymeriadau Cymreig ar y cyfryngau, oherwydd dydyn nhw ddim yn arbennig o dda wrth amrywio'r acen. (Mae eithriadau wrth gwrs, er enghraifft Matthew Rhys yn 'The Americans'.)

Nid pob actor o'r gogledd sy'n medru swnio fel deheuwr go iawn chwaith, na 'hwntw' yn medru argyhoeddi fel un o'r 'gogs'.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r brodor o Gaerdydd, Matthew Rhys, yn gallu newid ei acen yn llwyddiannus, o Sais uchel-ael yn 'Death comes to Pemberley' i acen Americanaidd yn 'The Americans'

Niwtral a safonol

Ynghanol y saithdegau fe ymunais i â'r BBC fel cyhoeddwr, i gyflwyno cyngherddau i Radio 3 yn Llundain a Radio 4 weithiau, ac i ddarllen y newyddion a chyflwyno ambell i raglen nôl yng Nghaerdydd.

Dyna i chi sefydliad ble roedd disgwyl i chi, bryd hynny, fod yn niwtral ac yn safonol.

Fe allech chi fod yn gwbl naturiol fel chi'ch hunan, ond ddim pan oeddech chi'n darllen newyddion neu yn cynrychioli ansawdd amhleidiol y Gorfforaeth. Does ryfedd yn y byd efallai i mi ddatblygu arddull oedd braidd yn 'posh'.

Dros y blynyddoedd, diolch byth, fe newidiodd agwedd y BBC tuag at acenion rhanbarthol.

Ond fe fu cryn dipyn o gwyno gan wrandawyr Radio 4 oherwydd eu bod nhw'n teimlo fod 'na ormod o leisiau Albanaidd, Gwyddelig a Chymreig i'w clywed bellach ar y rhwydwaith.

(Mae gŵron o'r Caribî yn dal i ddenu cwynion dwi'n deall, am nad yw ei lais soniarus, tebyg i Paul Robeson, na'i acen, yn ffitio i mewn i'r patrwm arferol.)

Disgrifiad o’r llun,

Mae Alex Jones yn defnyddio ei hacen Gymreig naturiol wrth gyflwyno rhaglenni'r BBC

Newid acen?

Ai peth da yw ceisio newid acen? Yn sicr, nage. Wedi'r cyfan, acen sy'n diffinio pwy yn union ydyn ni, sy'n cyfleu yn well na dim arall o ble 'ryn ni'n dod, a'r cefndiroedd sy' wedi ein dylanwadu.

Mae'n berygl bywyd chwarae o gwmpas â rheiny - mae llefaru wedyn yn medru troi'n berfformiad annaturiol, ac mae'n anodd cynnal perfformiad gydol yr amser.

Yn yr hen ddyddie roedd hysbysebion y BBC yn cynnwys y cymal 'Must have a pleasant microphone voice' - yn anffodus mae rhai acenion yn medru amharu ar ansawdd y llais yn y ddwy iaith - llafariaid yn rhy yddfol er enghraifft, cytseiniaid yn clecian, sy' wedyn yn amharu nid yn unig ar y mwynhad o wrando, ond sydd hefyd yn gwneud canolbwyntio ar yr hyn mae'r llefarydd yn ceisio'i gyfleu yn anoddach.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd gan y darlledwr Kenneth Kendall y 'pleasant microphone voice' delfrydol ar gyfer cyhoeddi ar y BBC

Weithiau mae acen naturiol yn gyfystyr â llefaru blêr, anniben, slebogaidd a dweud y gwir. Pan oeddwn i yn bennaeth yr adran gyflwyno yn y BBC, roedd cyhoeddwr yn gweithio i mi a fyddai'n darllen "This mornin', while crossin' the road..." - dyna oedd ei acen naturiol, ond oedd hynny yn cyfiawnhau gollwng yr 'ng' ar ddiwedd geiriau? Nag oedd yn fy marn i.

Rhagfarn

Ond efallai mai rhagfarn oedd hynny. Yn sicr mae acenion yn medru ennyn mwy o ragfarn na'r un pwnc arall bron. Fe wn i am nifer o bobl sy'n credu bod y Cymry fel cenedl yn wirioneddol dwp - oherwydd sŵn yr acen!

Meddyliwch am y feirniadaeth gafodd Leanne Wood yn ddiweddar ar ôl ymddangos ar y teledu led led Prydain. Pobl yn ei beirniadu oherwydd ei hacen or-Gymreig.

Nawr wn i ddim byd am ei gwleidyddiaeth hi, ond roedd ei hynganu yn eglur iawn - un o gryfderau'r acen.

Y gwir yw, nad yw Prydain yn clywed digon o acenion Cymreig - diolch byth am ddarlledwyr megis Huw Edwards, Wyre Davies ac Alex Jones - ond mae angen llawer mwy ohonyn nhw.

Ffynhonnell y llun, Daily Mail
Disgrifiad o’r llun,

Un o'r sylwadau negyddol am acen gref Leanne Wood

Nawr yr hyn sydd yn fy ngwir wylltio i, yw'r darlledwyr hynny sy'n defnyddio rhythmau siarad undonog a chwbl annaturiol, a sydd yn cambwysleisio geiriau o fewn brawddeg, fel nad yw stori yn gwneud synnwyr. Ond stori arall yw honno...!