Diddanwr y stryd

  • Cyhoeddwyd
Carwyn a'i delynFfynhonnell y llun, Carwyn Tywyn
Disgrifiad o’r llun,

Carwyn a'i delyn

Ar drothwy Gŵyl Bysgio newydd, dolen allanol y penwythnos yma, y telynor Carwyn Tywyn fu'n rhannu ei brofiadau o berfformio ar strydoedd Cymru a thu hwnt gyda Cymru Fyw.

Beth yw'r rhagolygon?

Fel rhywun sydd wedi adeiladu gyrfa ar gefn fy ngwaith fel bysgiwr, pob dymuniad da i'r ŵyl ac i'r cerddorion sydd yn cymryd rhan yn yr achlysur. A dymunaf dywydd da iddynt hefyd.

Ie, y tywydd.

Fel bysgiwr llawn amser rhwng 1997-2003, gorchwyl cyntaf yr wythnos - cyn bod yr wythnos wedi cychwyn hyd yn oed - oedd gwylio 'Weather for Farmers' ar raglen 'Countryfile' er mwyn penderfynu ble y bydden i'n mentro (gan gofio hefyd bod angen i mi weithio ar fy ymchwil PhD ar yr un pryd).

Glaw trwm, ond angen arian i dalu'r rhent? Cwmbrân. Dyma i chi Ganolfan Siopa dan do - rhyw fath o Stadiwm y Mileniwm i fysgwyr gyda'r to ar gau pob amser!

Sych ar y cyfan ond cyfnodau o law yn bygwth? Port Talbot, Y Barri, Caerffili, Llanelli. Canolfannau gyda rhywfaint o orchudd to uwchben y prif strydoedd siopa.

Ffynhonnell y llun, Phillip Halling/Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Dan gysgod: Mae yna le delfrydol i fysgiwr ddiddanu'r siopwyr yng Nghaerffili

Ond, o gymryd bod y tywydd yn sych a bod rhwydd hynt gen i deithio i unrhywle - i ble fydden i'n dewis mynd?

Dyma i chi rhestr fer, o'm profiad i - rhyw fath o wobrau Oscars i fy hoff trefi bysgio, os mynnwch chi:

Y cyfanswm gorau mewn un diwrnod: Pen-y-bont ar Ogwr. Cyfanswm o £339 yn Rhagfyr 2001 (fe ddigwyddodd y rhan fwyaf o ddiwrnodau bysgio 'mawr' yn ystod mis Rhagfyr, pan oeddwn yn canu carolau Nadolig yn unig).

Sgôr cyfartalog gorau: Wrecsam. Cyfartaledd o £194 mewn 7 ymweliad gwahanol i'r dref, y rhan fwyaf ohonynt cyn y Nadolig - gan gynnwys £307 ar un achlysur.

Safle bysgio pertaf: Caerfaddon (yn y sgwâr rhwng yr Eglwys Gadeiriol â'r hen Faddonau Rhufeinig).

Disgrifiad o’r llun,

Caerfaddon, llwyfan ysblennydd i Carwyn a'i delyn

Safle bysgio agosaf at fy nghalon: Aberystwyth. Y dref lle cychwynais ar fy nhaith bysgio, yn ddisgybl Blwyddyn 11 yn Ysgol Penweddig ddiwedd gwyliau haf 1990. Wastad ryw hen ffrind o gwmpas y dref, a llwyth o gaffis i ymlacio ynddynt wedi i'r alawon ddod i ben am y diwrnod!

Teilyngdod... i nifer o drefi, gan gynnwys Castell-nedd, Caerfyrddin, Hwlffordd, Y Fenni, Caerwynt (Winchester), St. Ives, Amwythig, Yeovil, Wells...

Yn fwy diweddar, bûm yn ymweld ag ambell i dref a hyd yn oed pentref yng Nghymru, rhyw lecynnau na fyddai rhywun yn disgwyl dod ar draws bysgiwr.

Mae'n help os ydych chi wedi cynhyrchu CD gweddol safonol i'w gwerthu.

Trwy werthu CDs rwyf wedi mwynhau llwyddiant mewn llefydd annisgwyl megis Rhosili, Pontarfynach, Llanwrtyd, Castell Newydd Emlyn ac Aberaeron.

Disgrifiad o’r llun,

Pwy fyddai'n meddwl y buasai hi'n bosib gwneud ceiniog neu ddwy wrth ddiddanu ymwelwyr wrth iddyn nhw fynd a dod o draeth Rhosili?

'Cyflog derbyniol i gerddor hyderus'

Bydden i'n argymell bysgio i unrhyw offerynwr ifanc. Os ydych yn gerddor gweddol hyderus, ac yn dewis safle synhwyrol i chwarae, mae'n weddol saff y byddwch yn ennill tipyn yn fwy na'r lleiafswm cyflog am bob awr o fysgio rydych yn ei wneud.

Yn fwy na hynny, mae bysgio yn cynnig cyfle i ymarfer eich repertoire, ac i gigio neu ymarfer alawon neu caneuon newydd mewn sefyllfa byw, yn barod at berfformiadau mwy ffurfiol.

Yn bersonol, rwyf wedi cyfansoddi sawl alaw wreiddiol ar y stryd pan fo'r awen yn cydio.

Ewch amdani!

Disgrifiad o’r llun,

Bysgiwr llwyddiannus: Talent, amynedd a gallu i frwydro'r elfennau