Tabledi colli pwysau: Agor a gohirio cwest
- Cyhoeddwyd
Mae cwest i farwolaeth myfyrwraig ym Mhrifysgol Glyndŵr, fu farw wedi iddi gymryd gormod o dabledi colli pwysau gafodd eu prynu arlein, wedi cael ei agor a'i ohirio.
Bu farw Eloise Aimee Parry, 21 oed o Amwythig, yn yr ysbyty ar 12 Ebrill wedi iddi ddechrau teimlo'n wael.
Dywedodd yr heddlu bod y tabledi'n cael eu profi ar hyn o bryd, ond eu bod nhw'n credu eu bod yn cynnwys y cemegyn diwydiannol, dinitrophenol, sy'n cael ei adnabod fel DNP.
Yn y DU, mae'r cemegyn wedi cael ei wahardd rhag cael ei roi mewn cynnyrch sy'n cael ei fwyta.
Cafodd y cwest ei ohirio tan 2 Gorffennaf gan grwner Swydd Amwythig, John Ellery, yn dilyn gwrandawiad byr yn Amwythig.
'Dwy dabled yn ddigon i ladd'
Aeth Ms Parry i'r uned frys wedi iddi gymryd mwy o'r tabledi nag oedd yn cael ei argymell.
Dywedodd ei mam, Fiona, ei bod wedi cerdded mewn i Ysbyty Brenhinol Amwythig ban ddechreuodd deimlo'n wael.
Yn ôl ei mam, "doedd dim panig mawr", tan i adroddiad tocsicoleg ddangos "pa mor ddifrifol oedd y sefyllfa".
Dywedodd ei mam mai wrth i'r cyffur ddechrau effeithio arni, mi wnaeth metaboledd Ms Parry gynyddu'n aruthrol.
"Mi wnaethon nhw drio ei hoeri, ond roedden nhw'n wynebu tasg anodd iawn.
"Roedd hi'n llosgi o'r tu mewn allan...Pan wnaeth ei chalon stopio nid oedden nhw'n gallu ei hadfywio.
"Roedd dwy dabled yn ddigon i ladd - ac roedd hi wedi cymryd wyth tabled."
Gofal wrth brynu tabledi
Dywedodd y meddygon wrth Ms Parry mai oherwydd "nad oes gwrthwenwyn", doedd dim y gallen nhw wneud.
Dywedodd Fiona nad oedd ei merch yn ymwybodol o'r peryglon yn ymwneud â DNP, ac nad oedd hi wedi bwriadu lladd ei hun.
Yn ôl Prif Arolygydd Jenny Mattinson, o Heddlu Gorllewin Mercia, mae'r cemegyn yn tueddu i gael ei ddefnyddio fel plaladdwr.
Dywedodd: "Gall hyd yn oed ychydig bach ohono gael effaith ddifrifol".
Ychwanegodd bod yr heddlu'n cydweithio â Public Health England er mwyn ceisio darganfod ble cafodd y tabledi eu prynu a sut roedden nhw'n cael eu hysbysebu.
Mi wnaeth hi annog y cyhoedd i "fod yn ofnadwy o ofalus wrth brynu meddyginiaeth neu dabledi eraill dros y we".
Dywedodd yr Athro Simon Thomas, o'r Uned Gwybodaeth Gwenwynau Cenedlaethol, bod DNP "yn achosi twymyn neu dymheredd uchel", ynghyd ag achosi i rywun chwysu ac i guriad eu calon gynyddu.
Dywedodd bod pobl sy'n cymryd y cemegyn "yn gallu dioddef o ddiffyg hylif, cyfogi a thaflu fyny, a gall hyn ddatblygu i fod yn gonfylsiwn, cyn i'r iau a'r arennau fethu, ac o fewn ychydig oriau gall arwain at farwolaeth."