Gwobrau Gwerin: Canu clodydd y Cymry
- Cyhoeddwyd
Y band gwerin o Gymru, 9Bach, gipiodd y wobr am yr albwm gorau yng Ngwobrau Gwerin BBC Radio 2 nos Fercher.
Fe gafodd y seremoni ei chynnal yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ym Mae Caerdydd.
9Bach oedd hefyd yn gyfrifol am gloi'r noson, gyda pherfformiad o un o draciau Tincian.
Fe ymunodd Côr Meibion y Penrhyn â nhw i ganu Ffarwel oddi ar yr albwm buddugol.
'Anhygoel'
Wedi'r cyhoeddiad, dywedodd prif leisydd y grŵp, Lisa Jên, wrth BBC Cymru Fyw:
"Mae hyn yn anhygoel i gerddoriaeth, dim jyst i 9Bach ond i gerddoriaeth Gymraeg yn gyffredinol. 'Da ni yma'n canu yn ein mamiaith ar y llwyfan.
"Mae wedi bod yn fraint bod yr albwm cynta' Cymraeg i gael ei enwebu erioed. Da ni 'di mopio.
"Mae o i gyd am yr hyder i ni yma yng Nghymru, i 'neud be' 'da ni'n 'neud a hynny o'r galon ac efo angerdd."
"Mae hyn yn creu hanes ac yn rhoi gobaith i ni'r Cymry, da ni angen hyder i wthio cerddoriaeth Gymraeg i gynulleidfa byd eang."
Anrhydeddu Merêd
Yn ogystal, cafodd Dr. Meredydd Evans ei anrhydeddu gyda Gwobr Traddodiad Da.
Mae'r wobr yn cael ei rhoi i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig i gerddoriaeth gwerin y DU.
Bu farw Dr Evans, oedd yn cael ei nabod fel Merêd, ym mis Chwefror yn 95 mlwydd oed.
Roedd Merêd yn ffigwr amlwg ym mywyd cyhoeddus Cymru, fel perfformiwr, arbenigwr ar ganu gwerin ac ymgyrchydd iaith.
Roedd yn bennaeth adloniant ysgafn BBC Cymru am ddegawd yn ystod yr 1960au ac 1970au.
Yn rhan o deyrnged i Merêd, roedd perfformiad gan griw o gerddorion gwerin o Gymru, 10 Mewn Bws.
Mewn cyfweliad â BBC Cymru, dywedodd merch Merêd, Eluned Evans: "Roeddwn i mor falch o fod yma, mor falch eu bod nhw wedi rhoi gwobr i dad, hefyd bod fy mam wedi cael cydnabyddiaeth, gan fod y ddau wedi cyd-weithio gymaint.
"Roeddwn mor falch i weld y deyrnged ar ffilm, ond roedd teyrnged Cerys Mathews, fel oni'n meddwl wrth fy hun - sut 'dwi fod i ddilyn hynna? Allai ddim peidio crio, mi oedd hi mor sensitif, roedd hi wedi cael naws fy nhad yn union.
"Rydw i'n falch o weld fod y sefydliad yn fodlon rhoi'r wobr i rywun fel dad, oedd yn berson mor gonfensiynol."
Galwodd Ms Evans hefyd i ddigido'r holl archifau canu gwerin yn ein hamgueddfeydd, fel eu bod ar gael i bawb.