Aros 40 mlynedd nes dysgu Cymraeg

Richard yn crwydro EryriFfynhonnell y llun, Richard J Williams
Disgrifiad o’r llun,

Richard J Williams

  • Cyhoeddwyd

Mae gŵr o Ipswich ond a dreuliodd chwe blynedd cyntaf o'i fywyd yn Abertawe wedi aros 40 mlynedd nes dysgu Cymraeg.

Ers ei wyliau i ogledd Cymru llynedd a gwirioni ar enwau Cymraeg yn Eryri mae Richard wedi penderfynu ail gysylltu â'i wreiddiau Cymreig.

Ac er ei fod wedi treulio y rhan fwyaf o'i oes yn Lloegr, mae'n parhau i gyfrif ei hun yn Gymro.

 hithau'n Ddiwrnod Rhyngwladol Mamiaith y Byd ar 21 Chwefror, Cymru Fyw fu'n sgwrsio gyda Richard am ei berthynas â iaith ei gyn-deidiau.

Ymweliad â gogledd Cymru yn ei ysbrydoli

Yn fab i Gymry di-Gymraeg, chafodd yr iaith Gymraeg mo'i gyflwyno i Richard a ni ddaeth i lawer o gysylltiad gyda'r iaith yn ystod ei flynyddoedd cynnar yn Abertawe.

Pan symudodd gyda'i rieni i swydd Derby byddai'n ymweld â'i fam-gu, ei dad-cu a'i fodryb yng Nghaerdydd yn aml, ond mae'n dweud na ddaeth i gysylltiad â'r Gymraeg fel iaith fyw, naturiol tan ei ymweliad â gogledd Cymru llynedd.

"Dyma'r tro cyntaf i mi fod mewn awyrgylch lle roedd pobl yn siarad Cymraeg ar y stryd.

"Ro'n in cerdded Taith Pererin Gogledd Cymru ar y pryd, pan ro'n i'n cerdded drwy Eryri wnes i sylwi 'mod i wedi colli allan ar gysylltiad arbennig gan nad oeddwn i'n gallu siarad Cymraeg. Cysylltiad gyda'r bobl, y gorffennol a hanes Cymru."

Cerdded rhan o Daith Pererin Gogledd Cymru gyda'i fab SimeonFfynhonnell y llun, Richard J Williams
Disgrifiad o’r llun,

Cerdded rhan o Daith Pererin Gogledd Cymru gyda'i fab Simeon

Dros y chwe mis diwethaf mae Richard wedi bod yn dysgu Cymraeg arlein, gyda duolingo, trwy chwarae CD yn ei gar a gwrando o ar bodcast dysgu Cymraeg, yn barod at ei ymweliad nesaf â gogledd Cymru dros wyliau'r haf eleni.

"Dwi eisiau siarad Cymraeg yng Ngogledd Cymru dros yr haf," meddai.

"Pan o'n in Llanberis haf diwethaf yn prynu brechdan mewn crys rygbi Cymru, dechreuodd y perchnogion siarad Wenglish efo fi.

"Ro'n i'n teimlo yn ddrwg gan nad oeddwn i'n deall rhywbeth mor syml â 'dachi'n siarad Cymraeg?' Bryd hynny roeddwn i'n gwybod ei fod yn amser i mi ddysgu."

Yn gymorth iddo mae anogaeth ei wraig Susie, ei fab Simeon a'i ferch Bethany.

Eglura: "Rwy'n siarad Ffrangeg ac ychydig o Eidaleg ond mae fy nheulu yn hoffi 'mod i'n dysgu Cymraeg yn fawr.

"Maen nhw eisiau gwybod sut beth yw bod yn Gymraeg felly rydyn ni'n mynd ar ein gwyliau i Gymru er mwyn dysgu. Mae dwyrain Lloegr yn bell iawn o Gymru."

Dylanwad y Gymraeg ar iaith ei rieni

Beth mae Richard yn ei hoffi am yr iaith?

"Mae mor wahanol i ieithoedd eraill, a rwy'n hoff o deimlo'r geiriau yn fy ngheg. Fy hoff eiriau yw hoffi coffi a bwrw glaw – mae'n swnio mor ramantus."

Mae Richard hefyd wedi bod yn ymwybodol erioed o ddylanwad y Gymraeg ar iaith ei rieni pan fydden nhw'n siarad Saesneg.

"Byddai Mam a Dad yn dweud pethau fel 'I'll see you now in a minute' a wnes i erioed ddeall ond wrth gwrs yn Gymraeg mae pobl yn dweud 'nawr yn y funud' felly rwy'n deall dylanwad y Gymraeg ar y Saesneg o'r diwedd.

"Byddai fy Mam hefyd yn dweud pethau fel 'My Richard is doing this…' yn lle 'Richard is doing this'. Nawr 'mod i'n gwybod bod y gair 'mae' yn dod ar gychwyn brawddegau yn Gymraeg, mae'n gwneud synnwyr ond roedd yn anodd i'w ddeall pan oeddwn i'n blentyn!"

Cyflwyno ychydig o'r Gymraeg i'w fab Simeon hefydFfynhonnell y llun, Richard J Williams
Disgrifiad o’r llun,

Cyflwyno ychydig o'r Gymraeg i'w fab Simeon hefyd

Ac yntau'n gweithio fel technegydd cyfrifiadurol ym mhrifysgol UCL, oes yna ddigon o adnoddau arlein ac apiau dysgu Cymraeg?

"Oes, mae Duolingo yn dda a podcast Learn Welsh yn dda iawn. Mae google translate yn dda, ond mae'r ynganu yn anodd ar gyfer geiriau newydd arno. Dwi'n hoff iawn o'r CD Hands-Free Welsh gyda Heini Gruffudd."

"Byddai mwy o fideos dysgu Cymraeg yn wych. Mae defnyddio CD's, Duolingo a phodlediadau yn dda ond gyda mwy o gyrsiau dysgu Cymraeg ar ffurfiau fideo byddwn yn gallu dysgu ynganu yn well.

Cysylltu â hen wlad ei dadau

Ar 22 Chwefror bydd Richard yn gwylio gêm Cymru yn erbyn Iwerddon yng Nghaerdydd, ac fel geiriau'r anthem, cysylltu â hen wlad ei dadau mae o'n ei wneud trwy ddysgu Cymraeg:

"Mae dysgu Cymraeg wedi agor fy llygaid ac yn nghysylltu gyda Chymry Cymraeg."

"Mae'n broblem bod llawer o Saeson yn disgwyl i'r Saesneg fod ymhobman.

"Wrth feddwl am ymwelwyr i Gymru dwi'n credu bod camau fel gwneud Eryri a Bannau Brycheiniog yn enwau swyddogol yn helpu newid agweddau.

"Mae'n dangos bod angen dysgu Cymraeg, neu wneud ymdrech."

"Mae ynganu yn gallu bod yn anodd. Felly efallai y gallai gwestai a chaffis gynnwys arwyddion sy'n cynnwys cymorth ffonetig ar sut i ddweud geiriau a chyfarchion."

"Pan es i i dafarn The Black Boy yng Nghaernarfon roedd llawer o furluniau Cymraeg a Saesneg oedd yn fy helpu ac yn fy ysbrydoli i ddysgu Cymraeg."

"Mae'r Gymraeg yn iaith Frythonig, mae'n perthyn i bawb ym Mhrydain felly byddai'n wych gweld mwy yn ei dysgu."

Pynciau cysylltiedig