Goroeswr ymosodiad rhyw mewn ysbyty wedi bod trwy 'uffern'

Fe wnaeth y treisiwr Lee James Mullen ymosod yn rhywiol ar Maggie mewn tŷ bach ysbyty yn y gogledd
- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Fe allai cynnwys yr erthygl hon beri gofid i rai
Mae goroeswr ymosodiad rhyw, sydd wedi dewis ildio ei hawl i aros yn ddienw, yn dweud ei bod wedi bod trwy "uffern".
Fe wnaeth treisiwr ymosod yn rhywiol ar Maggie mewn tŷ bach ysbyty yn y gogledd y llynedd.
Mae Lee James Mullen, 38 oed o'r Fflint, wedi ei garcharu am oes ar ôl pledio'n euog i'r ymosodiad yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan ar 10 Rhagfyr.
Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru, dywedodd Maggie ei bod wedi dechrau gwella yn gorfforol ond mai'r effaith "seicolegol yw'r gwaethaf".
Fe wnaeth Mullen ymosod arni mewn ciwbicl tra roedd hi'n ymweld â ffrind.
Dim ond pan aeth ei gŵr i mewn i chwilio amdani y gwnaeth Mullen ffoi.

Bydd yn rhaid i Lee James Mullen dreulio isafswm o saith mlynedd yn y carchar cyn iddo gael ei ystyried ar gyfer parôl
Dywedodd Maggie, sydd yn ei 60au cynnar, ei bod yn credu ei bod yn mynd i farw'r noson honno, ond ei bod yn "benderfynol o beidio gadael iddo ennill".
Dywedodd Maggie mai'r "cyfnod anoddaf oedd y tair, pedair wythnos gyntaf tra o'n i'n casáu'r dyn".
"Dydw i ddim yn ei gasáu rhagor achos mae casineb yn emosiwn sy'n cymryd bob dim allan ohonoch chi ac rwy'n benderfynol o beidio â gadael iddo fo gymryd unrhyw beth arall."
Cafodd Mullen ei ryddhau o'r carchar ar drwydded ym mis Mehefin y llynedd ar ôl cael ei garcharu am 11 mlynedd yn 2015 am dreisio dynes arall a'i chlymu gyda thâp.
Ar 10 Rhagfyr y llynedd, roedd Mullen wedi bod yn ymweld â ffrind yn yr ysbyty ac wedi cymryd cocên ac yfed alcohol.
Fe adawodd doiledau'r dynion wrth i ŵr Maggie fynd i mewn, ac yna ei dilyn hi i mewn i doiledau'r menywod.
Dywedodd Maggie: "Pan agorais i'r drws o'n i'n mynd i ddweud ei fod yn y tŷ bach anghywir, neu [gofyn] 'beth wyt ti'n 'neud yma?'.
"Ond ges i ddim y cyfle i wneud unrhyw beth fel 'na. Ro'dd o yn fy wyneb, wedi rhoi ei law dros fy ngheg a dweud fod o eisiau rhyw.
"Fe ddywedais i 'sori dwi ddim yn gallu dy glywed di'. Dywedodd 'dwi eisiau rhyw' - dywedais i na."

Fe wnaeth Mullen ymosod ar y ddynes mewn ciwbicl tra roedd hi'n ymweld â ffrind
Pan ddywedodd hi "na", dechreuodd ei dyrnu hi 25 i 30 o weithiau, a'i tharo eto ar ôl iddi orwedd ar y llawr a "chwarae'n farw", clywodd y llys.
Yna, fe wnaeth Mullen ymosod yn rhywiol arni.
"Dwi wedi bod trwy uffern - o'n i'n mynd i farw ar y llawr yna."
Agorodd ei gŵr ddrws y toiled i ofyn a oedd hi i mewn yno, ac fe adawodd Mullen yn syth.
Wrth siarad am ei phenderfyniad i ildio ei hawl i aros yn ddienw, dywedodd bod hi "byth eisiau i'r dyn yna ddod allan".
Esboniodd "os ydy hwn yn ei atal rhag cael ei ryddhau a gwneud yr un peth i rywun arall – achos fe fyddai o – os ydy hyn yn ei atal, yna fe wna'i [ildio fy hawl] mil o weithiau".
Ei gŵr yn 'arwr'
Wrth ddarllen ei datganiad personol ei hun yn y llys, dywedodd Maggie: "Dydw i ddim yn credu ei fod wedi gorffen yr hyn yr oedd am ei wneud y noson honno."
Ychwanegodd mai ei gŵr oedd ei "harwr".
Roedd wedi'i gorchuddio â gwaed gyda sawl clais ar ei hwyneb a'i gwddf.
Disgrifiodd y boen o golli digwyddiadau teuluol yn y cyfnod cyn y Nadolig, ac yna gorfod dweud wrth ei hwyrion bod "dyn cas" wedi ei hanafu ond bod "yr heddlu wedi ei gael".
Dywedodd ei bod wedi dychwelyd i'w gwaith ychydig wythnosau'n ddiweddarach gan egluro: "Roeddwn i'n benderfynol o beidio gadael iddo ennill."
Wrth roi dedfryd oes i Mullen, gydag isafswm o saith mlynedd cyn iddo gael ei ystyried ar gyfer parôl, dywedodd y Barnwr Rhys Rowlands: "Dyma un o'r sefyllfaoedd eithriadol hynny lle gellir cyfiawnhau dedfryd oes.
"Rydych chi'n ysglyfaethwr rhywiol hynod beryglus ac mae'r risg rydych chi'n ei beri i eraill yn debygol o barhau am y dyfodol rhagweladwy."
'Ymosodiad ysgytwol a digymell'
Wrth ymateb i'r ddedfryd, dywedodd y Ditectif Gwnstabl Ashley Davies: "Roedd hwn yn ymosodiad ysgytwol a digymell sydd wedi newid bywyd person diniwed a'u teulu.
"Ar ôl gadael yr ysbyty, fe daflodd Mullen ei ddillad cyn mynd i mewn i siop goffi leol i osgoi cael ei ddal.
"Hoffwn ganmol fy nghydweithwyr am leoli Mullen yn gyflym, cyn iddo allu cyflawni unrhyw droseddau pellach."
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Simon Kneale: "Rwy'n croesawu'r ddedfryd heddiw, ac er bod bywydau'r dioddefwr a'i theulu wedi cael eu heffeithio'n anadferadwy, rwy'n gobeithio y byddant yn cael rhywfaint o gysur o weld Mullen yn wynebu cyfnod hir yn y carchar."
Dywedodd Teresa Owen, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Hoffwn dalu teyrnged i ddewrder y ddynes yn yr achos hwn. Mae ein meddyliau gyda hi a'i theulu.
"Mae'r ymosodiad yma wedi cael effaith ddofn ar staff oedd ar ddyletswydd y noson honno, yn ogystal â chydweithwyr eraill sy'n gweithio yn Ysbyty Glan Clwyd.
"Fyddwn ni byth yn derbyn trais ar unrhyw ffurf, yn erbyn unrhyw un ar ein safleoedd gofal iechyd."
Os ydy cynnwys yr erthygl wedi cael effaith arnoch chi, mae cymorth ar gael ar wefan BBC Action Line
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2015
- Cyhoeddwyd10 Ionawr