Hutt a James y diweddaraf i beidio sefyll yn etholiad 2026

Jane HuttFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jane Hutt wedi cynrychioli etholaeth Bro Morgannwg ers dros chwarter canrif

  • Cyhoeddwyd

Jane Hutt a Julie James yw'r aelodau Llafur diweddaraf i gyhoeddi na fyddan nhw'n sefyll yn etholiadau'r Senedd yn 2026.

Hutt yw'r gweinidog sydd wedi gwasanaethu hiraf yn Llywodraeth Cymru, a'r gweinidog benywaidd sydd wedi gwasanaethu hiraf yn y DU.

Bu'n weinidog am y cyfnod datganoledig ers 1999 heblaw am gyfnod byr o dan arweinyddiaeth Carwyn Jones.

Yn ddiweddarach ddydd Gwener, cyhoeddodd cwnsler cyffredinol y llywodraeth a'r gweinidog cyflawni, Julie James, na fydd hithau chwaith yn sefyll.

Hi yw'r deuddegfed AS Llafur allan o 30 i gadarnhau na fyddan nhw'n ceisio cael eu hail-ethol yn 2026.

Fe allai'r etholiad flwyddyn nesaf fod yn anodd i Lafur, o dan system bleidleisio newydd a fydd yn adlewyrchu mwy ar sut mae pobl yn pleidleisio.

Bydd Senedd Cymru hefyd yn ehangu o 60 i 96 aelod ym mis Mai 2026.

Julie JamesFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Julie James hefyd wedi bod yn gyfrifol am lywodraeth leol, tai a newid hinsawdd yn y gorffennol

Dywedodd Ms Hutt, sy'n cynrychioli etholaeth Bro Morgannwg, ei fod yn "benderfyniad anodd" a'i bod yn "falch o'n cyflawniadau".

Mae Ms James wedi cynrychioli Gorllewin Abertawe ym Mae Caerdydd yn 2011.

Mewn datganiad, dywedodd ei fod wedi bod yn "fraint fy mywyd" i gynrychioli Gorllewin Abertawe ers 2011 a'i bod wedi bod yn "anrhydedd" i wasanaethu yn Llywodraeth Cymru ers 2017.

Cabinet pob prif weinidog

Rhwng 1999 a 2005 bu Jane Hutt, sy'n 75 oed, yn weinidog iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn Llywodraeth Cymru.

Rhwng 2005 a 2007, hi oedd y trefnydd a'r prif chwip.

Yng nghabinet cyntaf y trydydd Cynulliad, cafodd ei phenodi yn weinidog cyllid a threfnydd.

Daeth yn weinidog addysg yng nghabinet y glymblaid rhwng Llafur a Phlaid Cymru yn 2007.

Ym mis Rhagfyr 2009 cafodd ei phenodi yn weinidog cyllid, ac yn 2016 cafodd ei phenodi i swydd arweinydd y tŷ a'r prif chwip ar ddechrau'r Pumed Cynulliad.

Ar hyn o bryd, hi yw ysgrifennydd y Cabinet dros gyfiawnder cymdeithasol, y trefnydd a'r prif chwip.

Treuliodd ran o'i phlentyndod yn Uganda a Kenya, a chafodd ei haddysg ym Mhrifysgol Caint, Ysgol Economeg Llundain a Phrifysgol Bryste.

Mae hi'n byw ac yn gweithio yng Nghymru ers 1972.

Cyn cael ei hethol i'r Senedd, bu'n gydlynydd cenedlaethol cyntaf Cymorth i Fenywod Cymru.

Bu hefyd yn gyfarwyddwr Chwarae Teg, yr elusen gydraddoldeb rhywedd a ddaeth i ben yn 2023.

Roedd yn aelod etholedig o'r hen Gyngor Sir De Morgannwg am 12 mlynedd.

Yr ASau Llafur eraill sydd wedi cyhoeddi na fyddan nhw'n dychwelyd i Fae Caerdydd yw'r cyn-brif weinidogion Mark Drakeford a Vaughan Gething, gweinidog yr economi Rebecca Evans, y dirprwy weinidog Dawn Bowden, y cyn-weinidogion Julie Morgan, Lesley Griffiths a John Griffiths, y cyn-ddirprwy weinidog Lee Waters, y cyn-Gwnsler Cyffredinol Mick Antoniw, ac AS canolbarth a gorllewin Cymru Joyce Watson.